English

Wi-Fi

Mae rhwydweithiau di-wifr wedi chwyldroi’r ffordd rydym yn gweithio, yn y swyddfa, oddi ar y safle neu yn y cartref, a phan fyddwn allan o’r cartref a’r swyddfa. Mae’r dudalen hon yn delio â rhwydweithiau Wi-Fi yn y swyddfa a’r cartref yn hytrach na Mae rhwydweithiau di-wifr yn y cartref a’r swyddfa yn ei gwneud hi’n haws i ddefnyddio’r rhyngrwyd ac anfon a derbyn negeseuon e-bost mewn unrhyw ystafell yn yr adeilad a’r tu allan hyd yn oed… a galluogi ymwelwyr i wneud yr un fath. Mae Wi-Fi yn y swyddfa a’r cartref yn defnyddio’r un dechnoleg (802.11). Mae rhai problemau cyffredin, ac mae gan bob un ei risgiau penodol ei hun. Gallwch ddiogelu eich hun yn rhwydd gyda rhai rhagofalon syml.

Y risgiau

Os nad yw eich hwb/llwybrydd wedi’i ddiogelu, gall pobl neu sefydliadau anhysbys / heb awdurdod gael mynediad iddo yn rhwydd os byddant o fewn y cwmpas. Gall hyn arwain at y canlynol:

  • Gwybodaeth gyfrinachol neu sensitif y gallwch fod yn ei hanfon neu’n ei derbyn ar-lein yn cael ei rhyng-gipio, gan arwain at amrywiaeth o ganlyniadau difrifol.
  • Eich lled band yn cael ei gymryd – gan effeithio ar gyflymder ar-lein eich cyfrifiaduron eich hun a dyfeisiau eraill.
  • Eich lwfans lawrlwytho, rydych wedi talu eich Darparwr Gwasanaeth Rhyngrwyd (ISP) amdano, yn cael ei ddefnyddio.
  • Bod deunydd amhriodol yn cael ei lawrlwytho, a fyddai’n cael ei olrhain i’ch cyfeiriad ac nid i gyfeiriad y ddyfais dan sylw.

Rhwydweithio Di-wifr Diogel

  • Gellir osgoi’r holl risgiau uchod drwy sicrhau bod eich hwb/llwybrydd di-wifr wedi’i ddiogelu. Er mwyn gwneud yn siŵr fod hyn yn wir, chwiliwch am rwydweithiau di-wifr sydd ar gael, a bydd y rhai sydd wedi’u diogelu yn cynnwys symbol clo clap.
  • Pan fyddwch yn cysylltu cyfrifiadur, ffôn clyfar, llechen, argraffwr neu unrhyw ddyfais ddi-wifr arall ag unrhyw hwb/llwybrydd/dongl di-wifr am y tro cyntaf, cewch eich annog i roi cyfrinair/allwedd ar yr amod bod y rhwydwaith mewn modd diogel. Bydd hyn yn galluogi’r ddyfais i gysylltu ar yr achlysur hwn ac fel arfer, ar gyfer ei ddefnyddio yn y dyfodol. Am resymau diogelwch, dylech newid y cyfrinair/allwedd i un o’ch dewis chi cyn defnyddio’r Wi-Fi ar gyfer unrhyw gysylltiadau neu drafodion o natur gyfrinachol.
  • Os ydych yn sefydlu hwb/llwybrydd newydd, mae’n siŵr y bydd wedi’i ddarparu gyda’r diogelwch wedi’i droi ymlaen fel y gosodiad diofyn. Mae tair prif lefel amgryptio ar gael (WEP, WPA a WPA2), a WPA2 yw’r uchaf. Mae’r rhan fwyaf o hybiau/llwybrwyr yn rhoi’r opsiwn i chi o ddewis lefel uwch, ond cofiwch efallai na fydd rhai dyfeisiau hŷn yn gydnaws â lefelau uwch.
  • Os na fydd hwb/llwybrydd/dongl di-wifr cartref/swyddfa/symudol rydych am gysylltu ag ef wedi’i ddiogelu am unrhyw reswm, darllenwch y llawlyfr defnyddiwr.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd effeithiol wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi gysylltu i rwydwaith di-wifr.
  • Cadwch godau Wi-Fi yn ddiogel fel nad yw unigolion nad oes ganddynt awdurdod i gysylltu yn gwneud hynny.
  • Cofiwch fod y cod mynediad wedi’i argraffu ar yr hwb/llwybrydd, felly gwnewch yn siŵr eich bod naill ai yn ei ddileu, neu wneud yn siŵr na ellir cael mynediad i’r hwb/llwybrydd ei hun os bydd ymyrraeth neu os bydd pobl nad ydych yn eu hadnabod yn cael mynediad i’r safle.

In Partnership With