English

Twyll

Gall sawl math o dwyll effeithio ar fusnesau a sefydliadau eraill, ac mae’n hanfodol gwneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r risgiau yn eich sefydliad penodol, a sut i’w nodi a’u hatal.

Y risgiau

  • Cyflogeion a / neu gontractwyr yn gwario arian y cwmni er budd preifat. Er enghraifft:
    • Archebu nwyddau ar gyfer defnydd personol.
    • Gorarchebu nwyddau yn gyfnewid am gildwrn gan gyflenwyr.
    • Talu am wasanaethau nad ydynt yn bodoli yn gyfnewid am daliadau llwgr.
    • Negodi prisiau chwyddedig yn gyfnewid am daliadau llwgr.
  • Twyllwyr yn sefydlu cyfrif masnach yn enw eich cwmni a derbyn archebion ar gyfer nwyddau nad ydynt yn eu cyflenwi.
  • Twyllwyr yn cymryd eich gwefan drosodd er mwyn ailgyfeirio archebnion i’w gweinydd.
  • Twyllwyr yn esgus bod yn gyfarwyddwyr cwmni, yna’n newid y cyfarwyddwyr a chyfeiriad cofrestredig y busnes.
  • Cofnodion y cwmni, enwau cyflogeion, manylion cyfrifon banc a gwybodaeth sensitif arall yn cael eu dwyn gan bobl sy’n chwilio drwy finiau sbwriel.
  • Nwyddau’n cael eu harchebu gyda manylion cyfrifon ffug neu gardiau credyd wedi’u dwyn.
  • Ad-daliadau cardiau talu o ganlyniad i gwsmeriaid yn honni yn dwyllodrus bod nwyddau anaddas wedi’u derbyn, neu heb eu derbyn o gwbl.
  • Disodli’r nwyddau y gwnaethoch eu hanfon gyda nwyddau ffug pan gânt eu dychwelyd.
  • Gwe-rwydo, llais-rwydo ac ymosodiadau teilwra cymdeithasol eraill a allai eich darbwyllo chi neu eich cydweithwyr i ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol er mwyn hwyluso twyll.
  • Traffig eich gwefan yn cael ei ddargyfeirio’n fwriadol i safle ffug gyda chyfeiriad tebyg (er enghraifft, gyda chamsillafu bach).
  • Pasys adnabod, cyfrineiriau a gwybodaeth breifat yn cael ei dwyn gan gontractwyr a masnachwyr anonest.

Diogelu eich sefydliad

  • Gwiriwch eich cyfrifon banc a chofnodion Tŷ’r Cwmnïau am unrhyw gofnod afreolaidd yn rheolaidd.
  • Cysoni cyfriflenni banc a datganiadau cardiau credyd cwmnïau yn ofalus ac yn rheolaidd.
  • Annog cyflogeion, cwsmeriaid, cyflenwyr a phartneriaid busnes i adrodd am unrhyw beth anarferol.
  • Byddwch yn ymwybodol o barthau newydd tebyg i’ch rhai chi yn cael eu cofrestru. Ystyriwch gofrestru enghreifftiau cyffredin o gamsillafu ac amrywiadau o enw eich cwmni.
  • Rhwygwch bapurau sensitif cyn eu gwaredu.
  • Pennwch ganllawiau a phrosesau ar gyfer pwy all archebu ar ran y cwmni. Defnyddiwch system archebion prynu ffurfiol.
  • Gofynnwch am eirdaon ar gyfer cyflogeion a chontractwyr newydd ac ystyriwch eu fetio.
  • Cynhaliwch wiriadau credyd ar gwsmeriaid newydd a gwnewch yn siŵr fod eu manylion cyswllt yn ddilys.
  • Ymatebwch i geisiadau am arian yn ôl ar gardiau talu yn brydlon.
  • Pennwch gyfyngiadau credyd llym.
  • Pennwch gyfyngiadau ar gyfer codi arian, trosglwyddo arian a thaliadau o gyfrifon banc. Ystyriwch drefnu awdurdod deuol ar gyfer codi arian, trosglwyddo arian a thaliadau, yn yr un ffordd ag y byddech yn ei wneud gyda llofnodion deuol ar sieciau.
  • Ar gyfer cwsmeriaid anhysbys heb unrhyw hanes o drafodion, mynnwch fod taliadau sydd wedi’u clirio yn cael eu derbyn cyn i’r nwyddau neu wasanaethau gael eu cyflenwi.
  • Cynhaliwch wiriadau credyd ar gyflenwyr a phartneriaid newydd, a gwnewch yn siŵr fod eu manylion cyswllt yn ddilys.
  • Os ydych yn gwerthu ar-lein, dilyswch gwsmeriaid newydd gan ddefnyddio cam dilysu fel Gwasanaeth Dilysu Cyfeiriad, neu Verified by Visa / MasterCard SecureCode. Mae nifer o ddarparwyr masnachol datrysiadau dilysu a manylion ar wefan CardWatch.
  • Ffeiliwch gofnodion ysgrifenyddol eich cwmni gan ddefnyddio WebFiling Tŷ’r Cwmnïau er mwyn lleihau’r bygythiad y caiff enw eich cwmni neu gyfarwyddwyr eu dwyn.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich cyfrifiadur yn ddiogel drwy osod meddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd a waliau tân wedi’u diweddaru a’u gweithredu, diweddaru meddalwedd yn rheolaidd a defnyddio cyfrineiriau cryf a phreifat. Bydd hyn yn diogelu rhag bygythiadau ar-lein niferus.

Os bydd eich sefydliad yn cael profiad o dwyll gwirioneddol neu ymgais i dwyllo

  • Hysbyswch Action Fraud ar 0300 123 2040 neu ewch ar-lein i www.actionfraud.police.uk.
  • Cymerwch gamau ar unwaith i liniaru difrod, p’un a yw ffynhonnell y twyll a amheuir yn fewnol neu’n allanol
  • Os bydd yr achos o dwyll yn ymwneud â’ch cyfrif banc, cysylltwch â’ch banc ar unwaith

In Partnership With