English

Porwyr Gwe

Mae nifer o borwyr gwe y gallwch eu dewis i redeg yn eich busnes. Mae pa un yn dibynnu ar eich anghenion penodol ac, i raddau, dewis personol o ran nodweddion, rhyngwyneb ac ystyriaethau eraill. Pa borwr bynnag y byddwch yn ei ddewis, mae’n bwysig ei ddiweddaru’n rheolaidd – yn rhannol er mwyn manteisio ar ymarferoldeb newydd, gweithrediad cyflymach a chydnawsedd â’r dechnoleg gwe ddiweddaraf – ond yn bennaf er mwyn gwneud yn siŵr y caiff diogelwch ei chynnal, gan fod bregusrwydd mewn porwyr yn darged a ddewisir gan seiberdroseddwyr. Yn ogystal â rhedeg y fersiwn ddiweddaraf o’ch porwr y bydd eich system weithredu yn ei chefnogi, mae hyn hefyd yn golygu lawrlwytho a gosod y patsys diweddaraf ar eich porwr dewisol.

Diweddaru i’r fersiwn ddiweddaraf o’ch porwr

Mae diweddaru i’r fersiwn ddiweddaraf o borwyr gwe yn syml, ac rydym wedi’i gwneud hyn yn oed yn haws drwy roi dolenni o’r dudalen hon i’r rhai mwyaf poblogaidd. Gellir lanlwytho eraill drwy fynd i’w hafan a dilyn cyfarwyddiadau dilynol.

Cliciwch ar yr eicon isod sy’n cynrychioli’r porwr rydych wedi’i osod, a bydd hyn yn mynd â chi i’r wefan wreiddiol. Os ydych wedi bod yn ystyried newid i borwr arall yn gyfan gwbl – er enghraifft o Internet Explorer i Firefox – bydd clicio ar yr eicon ar gyfer eich porwr newydd dewisol hefyd yn eich galluogi i wneud hyn yn gyflym ac yn hawdd.

 

Internet ExplorerInternet Explorer 11
Lawrlwytho

…………………………………………………………………………………………………………..

ChromeGoogle Chrome
Lawrlwytho

…………………………………………………………………………………………………………..

OperaOpera
Lawrlwytho

…………………………………………………………………………………………………………..

Firefox

Firefox
Lawrlwytho

…………………………………………………………………………………………………………..

SafariSafari
Lawrlwytho

 

Cofiwch – nid yw gosod y fersiwn ddiweddaraf o’ch porwr yn ddigon ynddo’i hun i’ch diogelu rhag bygythiadau ar-lein.

Os ydych wedi cael anhawster yn gosod porwr newydd neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, ceisiwch gyngor a / neu gymorth gan sefydliad cymorth TG dibynadwy.

Lawrlwytho diweddariadau

Byddwch yn cael hysbysiadau cyfnodol bod diweddariadau ar gael ar gyfer eich porwr. Ar gyfer cyfrifiaduron Windows, er enghraifft, mae diweddariadau wedi’u cynnwys mewn patsys Windows rheolaidd gan Microsoft – fel arfer, cânt eu cyhoeddi ar ddydd Mawrth penodol ym mhob mis. Dylai defnyddwyr Apple Mac OSX chwilio am ddiweddariadau drwy’r cymhwyster Software Update.

In Partnership With