English

Gwerthu ar eBay

eBay yw marchnad ar-lein fwyaf poblogaidd y DU, ar gyfer busnesau yn ogystal â gwerthwyr preifat. Gyda miliynau o gwsmeriaid unigryw bob mis, mae’n cynnig y gynulleidfa bosibl fwyaf i fanwerthwyr a busnesau eraill sy’n gwaredu asedau. Fodd bynnag, gall y ffaith bod cymaint o brynwyr posibl hefyd eich amlygu i lefelau uchel o risg, y mae angen i chi gymryd rhagofalon synhwyrol rhagddynt.

Y risgiau

  • Prynwyr twyllodrus sy’n hawlio ad-daliadau gan PayPal drwy honni nad ydynt wedi derbyn nwyddau, nwyddau ddim fel maent wedi’u disgrifio neu nwyddau’n cael eu derbyn wedi’u difrodi.
  • Peidio â chael eich talu am eitemau sydd wedi cael eu dosbarthu.
  • Cael eich talu gan ddefnyddio cerdyn talu twyllodrus neu sydd wedi’i ddwyn.
  • Dod yn gyd-droseddwr anfwriadol i dwyll drwy gytuno i werthu eitemau nad ydynt yn bodoli mewn gwirionedd, ar ran troseddwyr.

Gwerthu’n ddiogel ar eBay

  • Disgrifio cynhyrchion yn gywir ac yn gynhwysfawr er mwyn osgoi camddealltwriaeth.
  • Ychwanegu polisi dychwelyd neu warant i roi rhywfaint o sicrwydd i’r prynwr ynghylch gwneud busnes gyda chi. Dylech hefyd fod yn gyfarwydd â Rheoliadau Diogelu Defnyddwyr (Gwerthu o Bell) 2000.
  • Defnyddiwch y dull o roi adborth er mwyn cael y sgôr orau posibl. Rhowch wasanaeth cwsmeriaid da fel nad yw trafodyn gwael yn datblygu i fod yn adborth negyddol.
  • Cynigiwch ddulliau talu dibynadwy, yn cynnwys cofrestru ar gyfer PayPal.
  • Peidiwch â derbyn taliadau Western Union na thaliadau trosglwyddo arian eraill.
  • Peidiwch â dosbarthu nwyddau nes byddwch yn siŵr eich bod wedi cael eich talu a bod y taliad wedi cael ei glirio drwy eich banc.
  • Darllenwch adborth ar brynwyr.
  • Byddwch yn ddetholus ynghylch pwy rydych yn gwerthu iddynt. Gallwch flocio cwsmeriaid sydd wedi cael adborth negyddol, ac eithrio cynigion o wledydd penodol. Cofiwch y gallwch ganslo cynigion amheus ar yr amod bod gennych reswm dilys dros wneud hynny.
  • Os bydd hawliad am ad-daliad, darllenwch My eBay Messages er mwyn dilysu unrhyw hawliad cyn rhoi ad-daliad, a defnyddiwch y dull talu gwreiddiol bob amser.
  • Os byddwch yn gwerthu eitem ar ran rhywun arall, gwnewch yn siŵr ei fod yn ddibynadwy cyn cytuno i wneud hynny.
  • Ystyriwch ddefnyddio Diogelwch Gwerthwyr PayPal, a all roi yswiriant diogelwch ychwanegol rhag colledion posibl oherwydd hawliadau prynwyr, achosion o ad-dalu neu wrth-droi.
  • Defnyddiwch wasanaeth dosbarthu sy’n cynnig prawf dosbarthu y gellir ei olrhain ar-lein.

Rhagor o wybodaeth

Darllenwch am Ddiogelwch Gwerthwyr eBay yn http://portal.ebay.co.uk/seller-protection

In Partnership With