English

e-bost

Mae pob sefydliad yn dibynnu ar e-bost heb feddwl ddwywaith, ac oherwydd hynny y mae wedi dod yn ddull mor gyffredin i bobl anfon gohebiaeth ddigroeso atoch sydd ar ei orau yn ddiflas ac ar ei waethaf yn niweidiol i’ch busnes.

Y risgiau

E-byst gwe-rwydo

Mae e-byst gwe-rwydo wedi’u cynllunio gan dwyllwyr i ymddangos fel pe baent wedi cael eu hanfon gan fanciau, cwmnïau cardiau credyd, adrannau’r llywodraeth, safleoedd arwerthiannau siopau ar-lein, a sefydliadau eraill yr ymddiriedir ynddynt. Gallwch gael negeseuon e-bost gwe-rwydo naill ai drwy gleient e-bost penodol (rhaglen) fel Microsoft Outlook, neu drwy e-bost ar y rhyngrwyd fel gmail, Hotmail, Yahoo! Mail neu e-bost a dderperir gan eich ISP.

Mae e-byst gwe-rwydo yn ceisio eich twyllo i wneud un o’r canlynol:

  • Clicio ar ddolen i fynd i wefan ffug ond sy’n edrych yn ddilys sy’n gofyn am wybodaeth gyfrinachol neu sydd wedi’i heintio â maleiswedd.
  • Agor atodiad sy’n edrych fel ffeil ddilys fel dogfen neu ffeil .exe, ond sy’n cynnwys maleiswedd mewn gwirionedd.

Yn aml, bydd e-byst gwe-rwydo ffug yn dangos rhai o’r nodweddion canlynol, ond wrth i dwyllwyr ddod yn fwy clyfar a defnyddio technoleg newydd, efallai na fydd y negeseuon e-bost yn cynnwys yr un o’r nodweddion hyn. Gallant hyd yn oed gynnwys enw a chyfeiriad eich busnes neu unigolyn.

  • Efallai y bydd cyfeiriad e-bost yr anfonwr yn wahanol i gyfeiriad gwefan y sefydliad dibynadwy.
  • Efallai bod yr e-bost wedi cael ei anfon o gyfeiriad hollol wahanol neu o gyfeiriad gwebost am ddim.
  • Efallai na fydd yr e-bost yn defnyddio eich enw go iawn, ond yn defnyddio cyfarchiad amhenodol fel “Annwyl gwsmer.”
  • Gall gynnwys geiriau wedi’u camsillafu a gramadeg gwael.
  • Ymdeimlad o frys; er enghraifft, y bygythiad y gellir cau eich cyfrif os na fyddwch yn gweithredu ar unwaith.
  • Dolen i wefan amlwg. Gallai’r rhain fod yn ffug neu gallant ymddangos yn debyg iawn i’r cyfeiriad go iawn, ond mae un nod o wahaniaeth yn golygu ei bod yn wefan wahanol.
  • Cais am wybodaeth bersonol fel enw defnyddiwr, cyfrinair neu fanylion banc.
  • Doeddech chi ddim yn disgwyl cael e-bost gan y sefydliad y mae’n ymddangos sydd wedi’i anfon.
  • Mae testun cyfan yr e-bost wedi’i gynnwys mewn delwedd yn hytrach na’r fformat testun arferol. Mae’r ddelwedd yn cynnwys dolen i safle ffug.
  • Mae rhai e-byst gwe-rwydo yn eich rhybuddio am feirws ac yn eich gwahodd i glicio ar ddolen neu agor atodiad i ddiogelu eich hun.
  • Gall hyd yn oed e-bost o ffynhonnell ddibynadwy fod yn e-bost gwe-rwydo os yw cyfrif yr anfonwr wedi cael ei hacio.

Osgoi e-byst gwe-rwydo

  • Peidiwch ag agor atodiadau o ffynonellau anhysbys.
  • Os nad ydych yn siŵr, cysylltwch â’r person neu’r sefydliad yr honnir yr anfonwyd yr e-bost ganddo gan ddefnyddio’r rhif ffôn y gwyddoch ei fod yn ddilys.
  • Peidiwch â chlicio ar ddolenni mewn e-byst gan ffynonellau anhysbys. Yn hytrach, rholiwch eich llygoden dros y ddolen er mwyn datgelu ei gwir gyrchfan, a ddangosir yng nghornel chwith isaf eich sgrin. Byddwch yn wyliadwrus os bydd hyn yn wahanol i’r hyn a ddangosir yn nhestun y ddolen o’r e-bost.
  • Peidiwch ag ymateb i negeseuon e-bost o ffynonellau anhysbys.
  • Peidiwch â gwneud pwrcasiadau na rhoi i elusen mewn ymateb i e-bost sbam.
  • Peidiwch ag ymateb i e-bost digroeso.
  • Peidiwch â dad-danysgrifio i’r hyn rydych yn meddwl y gallent fod yn e-byst gwe-rwydo. Gall hyn ynddo’i hun eich arwain i wefan ffug.
  • Edrychwch yn eich ffolderi post sothach neu sbam yn rheolaidd rhag ofn y bydd e-bost dilys wedi mynd yno mewn camgymeriad.
  • Os ydych yn amau e-bost, gallwch weld a yw ar restr o e-byst sbam a sgam y mae rhai gwerthwyr meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd yn eu cynnwys ar eu gwefannau.
  • Mae’r rhan fwyaf o gleientiaid Microsoft a chleientiaid e-bost eraill yn cynnwys cyfleuster hidlo sbam fel nodwedd safonol. Dylech sicrhau bod eich un chi wedi’i droi ymlaen.
  • Gellir gosod y rhan fwyaf o hidlwyr sbam a sothach i alluogi post i gael ei dderbyn o ffynonellau yr ymddiriedir ynddynt, a’i rwystro o ffynonellau nad ymddiriedir ynddynt.
  • Wrth ddewis cyfrif gwebost fel gmail, Hotmail a Yahoo! Mail, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis un sy’n cynnwys cyfleuster hidlo sbam a’i fod yn cael ei adael wedi’i droi ymlaen.
  • Mae’r rhan fwyaf o becynnau diogelwch ar y rhyngrwyd yn cynnwys cyfleuster rhwystro sbam. Gwnewch yn siŵr fod eich un chi wedi’i ddiweddaru a bod y nodwedd hon wedi’i throi ymlaen.

E-bost sbam (post sothach)

Mae’r mwyafrif helaeth o’r negeseuon e-bost a anfonir bob diwrnod yn sbam digymell. Caiff llawer o’r rhain, yn hytrach na chael eu cynllunio i dwyllo, eu hanfon gyda’r bwriad o dywys ymwelwyr i wefannau gwerthu neu hyd yn oed wella cyfraddau clicio drwodd ar wefannau cystadleuwyr. Ymysg yr enghreifftiau mae:

  • Hysbysebu, er enghraifft fferyllfeydd, pornograffi, caru, hapchwarae ar-lein.
  • Cynlluniau cyfoeth cyflym a gweithio o gartref.
  • Rhybuddion feirws ffug.
  • Apeliadau ffug gan elusennau.
  • Negeseuon e-bost cadwyn sy’n eich annog i’w hanfon ymlaen at gysylltiadau niferus (yn aml i ddod â ‘lwc dda’).

Mae sbamwyr yn cael rhestrau o gyfeiriadau e-bost drwy wneud y canlynol:

  • Defnyddio meddalwed awtomataidd.
  • Eich denu i roi eu manylion ar wefannau twyllodrus.
  • Hacio i wefannau dilys er mwyn casglu manylion defnyddwyr.
  • Eu prynu o ffynonellau annilys.
  • Eich gwahodd i glicio drwodd i wefannau twyllodrus sy’n esgus bod yn wasanaethau canslo e-bost sbam.
  • Eich bod chi yn e-bostio sawl derbynnydd sydd wedi’u rhestru yn y maes cc yn lle’r maes bcc – neu’n trosglwyddo e-byst heb ddileu anfonwyr blaenorol yn y llinyn.

Mae’r weithred o ymateb i e-bost sbam yn cadarnhau i sbamwyr bod eich cyfeiriad e-bost yn bodoli.

Diogelwch gwebost

  • Defnyddiwch wasanaethau gwebost gan gwmnïau hysbys a dibynadwy.
  • Galluogwch weithrediad hidlo sbam neu newidiwch i ddarparwr gwebost a all wneud hyn.
  • Defnyddiwch gyfrineiriau cryf i fewngofnodi.
  • Cofiwch allgofnodi o’ch gwebost pan fyddwch wedi gorffen e-bostio, yn hytrach na dim ond cau’r ffenestr neu droi’r ddyfais i ffwrdd.
  • Dim ond pan fydd gan eich darparwr gwebost gysylltiad diogel (a ddangosir drwy glo clap yng nghornel de gwaelod ffenestr eich porwr a’r llythrennau ‘https://’ ar ddechrau cyfeiriad y wefan) y dylech gysylltu â gwebost. Os nad yw’r cysylltiad yn ddiogel, gofalwch na fyddwch yn anfon e-bost a allai ddatgelu neu roi mynediad i wybodaeth gyfrinachol.
  • Byddwch yn wyliadwrus ynghylch atodiadau mewn negeseuon e-bost o ffynonellau anhysbys neu annibynadwy. Mae rhai systemau gwebost yn sganio atodiadau am faleiswedd yn awtomatig.
  • Gwnewch yn siŵr bod gennych feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd a wal dân addas a dibynadwy wedi’u gosod ac yn rhedeg.

Diogelwch hen e-byst

Nid yw hyn yn golygu risg diogelwch, ond cofiwch y gall rhai systemau gwebost ddileu negeseuon e-bost os byddwch yn mynd y tu hwnt i’r cwota storio. Os bydd eich archif e-bost yn bwysig, ystyriwch wasanaeth storio ar-lein sy’n codi tâl, neu ddefnyddio gwasanaeth gwebost heb y cyfyngiadau hyn.  Gall rhai darparwyr gwebost hefyd atal eich cyfrif os na fyddwch yn cael mynediad iddo am gyfnod estynedig o amser.

In Partnership With