English

Dyfeisiau Symudol

Mae pob sefydliad yn dibynnu i raddau helaeth ar ddyfeisiau symudol – ffonau clyfar a llechi fwyfwy – i gynnal prosesau cyfathrebu effeithlon, gyda chwsmeriaid a chyflenwyr, a chysylltu â’r busnes ei hun. Mae hyn yn gymwys i’r defnydd a wneir o ddata gymaint ag y mae i lais oherwydd, i bob pwrpas, mae dyfeisiau symudol yn gweithredu’n debyg i gyfrifiaduron.

Fodd bynnag, mae nifer o risgiau penodol yn gysylltiedig â buddiannau niferus gweithio symudol – a llawer ohonynt yn codi o’i nodweddion sylweddol.

Y risgiau

  • Dyfeisiau symudol yn cael eu colli neu eu dwyn – sy’n golygu bod angen rhai newydd yn eu lle ond hefyd y posibilrwydd o beryglu’r data ar y ddyfais.
  • Maleiswedd – peryglu’r ddyfais ynghyd â dyfeisiau eraill y mae wedi’i chysylltu â nhw (yn cynnwys drwy e-bost) a’ch holl seilwaith TG a diogelwch eich prosesau a thrafodion busnes. Gall hyn fod o ganlyniad i lawrlwytho e-byst gwe-rwydo, ymweld â gwefannau sydd wedi’u heintio neu lawrlwytho apiau sydd wedi’u heintio.
  • Peryglu diogelwch mewn mannau cyhoeddus drwy ddefnyddio Wi-Fi anniogel, neu bobl yn edrych dros eich ysgwydd/dros ysgwydd eich cyflogai.
  • Peryglu diogelwch os na chaiff y ddyfais ei gwaredu’n gywir.

Yn eu tro, gall y rhain arwain at faterion eraill fel mathau amrywiol o dwyll, dwyn hunaniaeth, dwyn data, peryglu diogelwch cyflogai, colli enw da, diffyg cydymffurfiaeth â rheoliadau data a hyd yn oed flacmêl neu gael eich dal yn wystl (corfforaeth neu unigolyn).

Cyngor ar ddefnyddio dyfeisiau symudol

  • Dylid gwneud pawb sy’n defnyddio dyfais symudol cwmni (neu sydd ag awdurdod i ddefnyddio eu dyfais eu hunain) yn gyfrifol am eu hymddygiad a’u gweithredoedd.
  • Dylid cynnwys y defnydd o ddyfeisiau symudol ar fusnes y cwmni, yn llawlyfr y cwmni.
  • Gwnewch yn siŵr fod pob dyfais yn cael ei diogelu â PIN, sy’n anodd ei weithio allan ac sydd ond yn hysbys i’r person sy’n gyfrifol am y ddyfais (gydag eithriad y swyddogaeth cymorth TG a pherchennog y busnes o bosibl).
  • Gwnewch yn siŵr fod pob dyfais wedi’i diogelu gan ap diogelwch ar y rhyngrwyd cydnabyddedig, ei fod wedi’i ddiweddaru pan fydd angen ac wedi’i alluogi bob amser.
    • Ystyriwch feddalwedd diogelwch sy’n lleoli’r ddyfais os caiff ei cholli/dwyn, sy’n analluogi ei gweithrediad, sy’n seinio larwm, sy’n anfon ffotograff o’r person sy’n rhoi PIN anghywir neu lu o nodweddion arloesol eraill dyfeisiau heddiw.
  • Gwnewch yn siŵr fod defnyddwyr dyfeisiau symudol yn llwyr ymwybodol o’r rhagofalon y mae angen iddynt eu cymryd i ddiogelu eu dyfeisiau a’r wybodaeth a geir arnynt, yn cynnwys:
  • Diogelu’r ddyfais mewn mannau cyhoeddus
  • Gwneud yn siŵr fod y Wi-Fi yn ddiogel, neu ddefnyddio dongl data
  • Bod yn wyliadwrus o bobl yn ‘syrffio dros ysgwydd’
  • Cael polisïau llym ar ddefnydd diogel – yn cynnwys e-bost, defnydd o’r rhyngrwyd, rhwydweithio cymdeithasol ac apiau – er mwyn osgoi cael eich heintio gan faleiswedd.

In Partnership With