English

Dod â’ch Dyfais eich Hun

Dangosir yr arfer o alluogi cyflogeion, contractwyr a phobl eraill sy’n gweithio yn eich sefydliad i ddefnyddio eu gliniaruon, dyfeisiau symudol a dulliau storio symudol eu hunain wrth weithio fel ‘Dod â’ch Dyfais eich Hun’ neu BYoD. Mae’n arfer a all gael goblygiadau cadarnhaol a negyddol i’r sefydliad a’r cyflogai – p’un a fydd y ddyfais yn dod i mewn i’r gweithle neu’n cael ei defnyddio o bell.

Ni waeth faint rydych yn ymddiried yn y bobl sy’n gweithio i chi neu gyda chi, dyfeisiau personol sy’n creu un o’r risgiau mwyaf i system diogelwch gwybodaeth unrhyw sefydliad.

O ran perchenogaeth data, mae galluogi cyflogeion i roi data’r cwmni ar ddyfais bersonol yn golygu colli rheolaeth dros y data hynny, o gymharu â’u cadw yn ddiogel o fewn y cwmni … boed hynny mewn rhwydwaith, yn y cwmwl neu ar ddyfais symudol sy’n eiddo i’r cwmni.

Gall fod yn anodd monitro dyfais cyflogai yn effeithiol; gall fod yn anodd gwybod pa ddata a gaiff eu storio ar y ddyfais os caiff ei cholli neu ei dwyn; a phan fydd y cyflogai yn gadael, gallai fod yn amhosibl adalw’r data. Gall fod yn anodd amgryptio data personol ar ddyfais cyflogai … gan dorri’r Ddeddf Diogelu Data o bosibl. Yn ogystal, os yw’n ddyfais bersonol a ddefnyddir at ddibenion gwaith, bydd ardal lwyd ynghylch pwy sy’n darparu’r cymorth technegol ac yn talu amdano.

Y risgiau

  • Cyflogai yn dwyn data cwmni.
  • Data cwmni yn cael eu colli neu eu dwyn os caiff y ddyfais ei cholli neu ei dwyn.
  • Cyflwyno maleiswedd i systemau cwmni mewn modd maleisus neu esgeulus.
  • Colli cydymffurfiaeth â rheoliadau neu safonau eich diwydiant.
  • Costau cynyddol ar gyfer cymorth technegol ar gyfer dyfeisiau ‘anhysbys’.
  • Rhagori ar gyfyngiadau data pan fydd cyflogeion yn lawrlwytho ffeiliau mawr (fel ffilmiau) drwy rwydwaith y cwmni.
  • Cyflogeion yn gwastraffu amser drwy fynd ar wefannau / defnyddio apiau ar ddyfeisiau personol.
  • Cynhyrchion neu fersiynau o feddalwedd ddim yn gydnaws.

Cyngor ar ddyfeisiau personol yn y gwaith

  • Penderfynwch a oes angen galluogi cyflogeion i ddefnyddio dyfeisiau personol yn y gweithle: a yw’r budd i’r busnes yn gorbwyso’r costau a’r risgiau?
  • Os felly, penderfynwch i ba raddau y dylid galluogi cyflogeion i ddefnyddio dyfeisiau personol (mathau o ddyfais, at ba ddiben a chan bwy).
  • Cynhaliwch asesiad risg a gwnewch yn siŵr fod digon o reolaethau ar waith er mwyn lleihau risgiau i’r busnes.
  • Ystyriwch oblygiadau’r Ddeddf Diogelu Data.
  • Gwnewch yn siŵr fod y defnydd o ddyfeisiau personol wedi’i gynnwys yn eich polisi ar ddefnydd derbyniol – er enghraifft mewn contractau cyflogeion a llawlyfrau staff.
  • Ystyriwch weithredu un o’r nifer o ddatrysiadau rheoli dyfeisiau symudol sydd ar y farchnad heddiw.

In Partnership With