English

Diweddariadau System Weithredu

Pan gaiff fersiynau newydd o systemau gweithredu eu lansio, fel Microsoft Windows, Apple OS X / iOS neu Android, fel arfer byddant yn cynnig defnyddioldeb gwell, nodweddion ychwanegol a phrofiad gwell i ddefnyddwyr. Fodd bynnag, mae seiberdroseddwyr yn dod o hyd i fannau bregus yn y system weithredu newydd yn gyflym ac yn parhau i wneud hynny drwy gydol oes y fersiwn. Er mwyn atal hyn, mae’r cwmnïau meddalwedd yn cyhoeddi diweddariadau rheolaidd – fel diweddariadau diogelwch neu ddiweddariadau hanfodol, sy’n amddiffyn rhag maleiswedd a dulliau o dorri diogelwch.

Mae mathau eraill o ddiweddariadau yn cywiro gwallau neu’n gwella gweithdrediad o fewn y system weithredu, ac nid ydynt o reidrwydd yn ymwneud â diogelwch. Maent hefyd yn canfod pa rai o raglenni eraill eu gwneuthurwyr rydych yn eu rhedeg ar eich dyfais ac yn rhoi diweddariadau i’r rhain hefyd.

Y risgiau

Gall peidio â diweddaru eich system weithredu yn rheolaidd arwain at broblemau difrifol, a all effeithio ar eich dyfais a’ch diogelwch personol eich hun. Mae’r rhain yn cynnwys:

  • Feirysau, ysbïwedd a maleiswedd arall.
  • Ymosodiadau seiberdroseddau.
  • Chwalu, rhewi a pherfformiad gwael yn gyffredinol.

Diweddaru eich system weithredu

Cyfrifiaduron Windows

Er mwyn sicrhau bod y diweddariadau Windows diweddaraf yn cael eu lawrlwytho a’u gosod yn awtomataidd, dylech wneud yn siŵr fod eich cyfrifiadur wedi’i osod fel a ganlyn:

  • Windows 8 a 10
    O’r ddewislen Start menu, cliciwch ar ‘Control Panel’. Dewiswch ‘Windows Update’, yna cliciwch ar ‘Install optional updates’. Yn y cwarel chwith, cliciwch ar ‘Change settings’. O dan Important updates, dewiswch yr opsiwn rydych am ei gael. O dan ‘Recommended updates’, dewiswch y blwch ‘Give me recommended updates the same way I receive important updates’, ac yna cliciwch ar ‘OK.’Efallai y gofynnir i chi am gyfrinair gweinyddu neu i gadarnhau eich dewis.

Pan fydd lawrlwythiadau Windows wedi cael eu lawrlwytho, byddwch yn cael gwybod eu bod ar gael. Dylech ailgychwyn eich cyfrifiadur er mwyn eu gosod (ar ôl hyn bydd y dangosydd yn dangos faint o ddiweddariadau sydd wedi cael eu cymhwyso o’r cyfanswm) – neu os yw eich cyfrifiadur wedi cael ei gloi, bydd yn diffodd yn awtomatig a bydd yn rhaid i chi ei bweru er mwyn gosod y diweddariadau. Peidiwch â thorri ar draws diweddariadau drwy ddatgysylltu plwg y cyfrifiadur neu ei ailgychwyn.

Cyfrifiaduron OS X

  • Gwnewch gopïau wrth gefn o’ch Mac gan ddefnyddio Time Machine neu system cadw copïau wrth gefn arall.
  • Os mai MacBook yw eich cyfrifiadur, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei blygio i’r prif gyflenwad pŵer.
  • Cliciwch ar yr eicon Apple ar ochr chwith uchaf y prif far dewislen a dewiswch ‘Software Update’, a fydd yn datgeluo’r diweddariadau sydd ar gael. Bydd yn rhaid i chi gytuno ar gytundeb trwydded defnyddwyr Apple, ac mae Get Safe Online yn argymell eich bod yn darllen yr holl delerau ac amodau er eich diogelwch eich hun. Os caiff diweddariadau eraill eu cynnig, rhedwch y rhain yn ogystal â diweddariadau OS X. Fel arall, gallwch ddewis lawrlwytho cyfleuster gosod â llaw Apple.
  • Bydd bar cynnydd yn dangos y statws diweddaru. Peidiwch â thorri ar draws diweddariadau drwy ddatgysylltu plwg y cyfrifiadur neu ei ailgychwyn.
  • Gofynnir i chi roi eich rhif adnabod a chyfrinair Apple er mwyn dilysu opsiynau iCloud a Keychain.

Dyfeisiau Symudol

Pan fydd diweddariadau ar gael ar gyfer system weithredu eich dyfais symudol, cânt eu lawrlwytho a’u gosod yn awtomatig pan gaiff y ddyfais ei chysylltu â’r rhyngrwyd.

Nodwch nad yw lawrlwytho’r diweddariadau system weithredu diweddaraf yn dileu’r angen i redeg y fersiynau diweddaraf o feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd a meddalwedd wal dân.

 

 

In Partnership With