English

Asesiadau Risg Gwybodaeth

Mewn unrhyw agwedd o fusnes, mae’n amhosibl diogelu rhag risgiau os nad ydych yn gwybod beth ydynt. Felly, mae’n hanfodol eich bod yn paratoi asesiad risg gwybodaeth cyn sefydlu strategaeth diogelu gwybodaeth fel bod eich sefydliad yn ymwybodol o’r risgiau y mae’n eu hwynebu. Mae hyn yn eich galluogi i’w rheoli yn y ffordd fwyaf rhesymegol, effeithlon a chost effeithiol.

Wrth gwrs, mae asedau gwybodaeth yn amrywio mewn gwerth o fod yn hanfodol o ran busnes i rai heb lawer o bwysigrwydd os o gwbl, a chaiff asesiad risg gwybodaeth ei gynllunio i wahaniaethu rhyngddynt.

Meini prawf asesu

Aseswch yr asedau gwybodaeth a geir yn y sefydliad yn erbyn y tri maen prawf canlynol:

  • Cyfrinachedd

Cyfrinachedd gwybodaeth fel cofnodion adnoddau dynol neu’r gyflogres, cyfrifon ariannol, data cwsmeriaid ac eiddo deallusol. Er enghraifft, os yw manylion personol cyflogeion neu gwsmeriaid wedi cael eu peryglu, gallai hyn olygu bod GDPR wedi cael ei dorri.

  • Uniondeb

Uniondeb gwybodaeth y mae’n rhaid iddi fod yn gywir a pharhau i fod yn gywir er mwyn cynnal swyddogaethau allweddol y sefydliad, fel data dylunio a gweithgynhyrchu, gwybodaeth iechyd a diogelwch tasg-benodol neu adroddiadau ariannol yn achos cwmni rhestredig. Er enghraifft, pe byddai cystadleuydd neu gyflogai anfodlon yn cael gafael ar y data ac yn eu newid, gallai’r effaith fod yn sylweddol.

  • Argaeledd

Argaeledd gwybodaeth pan fydd ei hangen, fel taflenni amser cyflogai ar ddiwedd y mis, neu ddata gweithredu llinell gynhyrchu ar ddiwrnodau’r wythnos rhwng 8.00am a 6.00pm, 50 diwrnod y flwyddyn. Gallai fod yn hanfodol bod y data ar gael o fewn yr adegau hyn. Er enghraifft, os na ellir cael gafael ar gofnodion taflenni amser, ni ellir talu cyflogeion.

Wrth asesu’r wybodaeth, lluniwch farn gwerth ynghylch y risgiau sy’n deillio o’r ffaith bod y wybodaeth honno wedi’i pheryglu yn erbyn y meini prawf CIA, a lefel difrifoldeb y canlyniadau.

Dadansoddiad o’r effaith ar fusnes

O’r asesiad o’ch asedau gwybodaeth, bydd gennych y ddealltwriaeth i lunio dadansoddiad o’r effaith ar fusnes, gan dangos y priod risgiau a chanlyniadau, p’un a ydynt yn ariannol, yn ddynol, yn rhesymegol neu’n ymwneud ag enw da.

Bydd hyn, yn ei dro, yn eich galluogi i reoli’r risgiau hynny yn y ffordd sydd fwyaf priodol i’ch sefydliad drwy ddewis a chyfiawnhau’r gwrthfesurau mwyaf addas fel rhan o’ch strategaeth diogelu gwybodaeth. Bydd hyn yn cynnwys dadansoddi cost y gwrthfesur sy’n gymesur ag effaith y bygythiad y mae wedi’i gynllunio i’w liniaru. Nid yw cael mesurau rhesymol ar waith yn rhoi unrhyw sicrwydd na fydd rhywun heb awdurdod – gyda chymhelliant a phenderfyniad digon cryf – yn llwyddo i gael gafael ar wybodaeth sydd o ddiddordeb iddo.

Wrth gwrs, efallai yr ystyrir na fydd angen unrhyw wrthfesurau i ddiogelu rhag rhai risgiau penodol, ond o leiaf byddwch yn gwybod am y canlyniadau.

Dylid cynnal asesiadau risg gwybodaeth yn rheolaidd, neu er mwyn adlewyrchu newidiadau mewn mathau o wybodaeth a ddelir, strwythur busnes a thirwedd bygythiadau sy’n esblygu.

 

 

In Partnership With