English

Diogelwch eich Gwefan

P’un a yw eich busnes yn gweithredu gwefan e-fasnach neu farchnata, mae’n hanfodol ei diogelu rhag ymosodiadau gan hacwyr yn ogystal â methiant technegol. Mae canlyniadau peidio â gwneud hynny yn cynnwys colli gwasanaeth, llai o refeniw a niwed i enw da.

Y risgiau

  • Dwyn gwybodaeth am gwsmeriaid, fel cyfeiriadau a manylion cardiau talu.
  • Difwyno gwefan – o bosibl gan gynnwys delweddau a negeseuon anweddus, ymosodol, casineb neu derfysgaeth.
  • Ymosodiadau atal gwasanaeth gan droseddwyr sy’n ceisio amharu ar eich busnes, fel arfer er mwyn cribddeilio arian.
  • Difrod i’ch enw da.
  • Gwefan yn methu oherwydd problemau seilwaith neu gyflenwad pŵer.
  • Atal gwasanaeth neu ymosodiad atal gwasanaeth gwasgaredig bwriadol.

Diogelwch eich gwefan

Os ydych yn gweletya eich gwefan eich hun yn hytrach nag yn defnyddio cwmni gweletya trydydd parti, gwnewch yn siŵr fod y galedwedd a’r feddalwedd yn ddiogel:

  • Defnyddiwch gyfrineiriau cryf, wedi’u diogelu ym mhob rhan o’r system. Peidiwch â gadael unrhyw gyfrinair wedi’i osod ar ei werth diofyn.
  • Gwnewch yn siŵr fod y gweinydd wedi’i ddiogelu gan wal dân a meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd effeithiol.
  • Monitrwch ffeiliau cofnodi er mwyn dod o hyd i unrhyw achosion o geisio tresmasu.
  • Defnyddiwch y fersiwn ddiweddaraf o unrhyw feddalwedd e-fasnach. Efallai y bydd hen fersiynau yn cynnwys diffygion y gall hacwyr fanteisio arnynt.
  • Dilewch wefannau darfodedig drwy ofyn i’r cwmni gweletya eu tynnu i lawr a dileu pob ffeil.
  • Peidiwch byth â storio gwybodaeth breifat a manylion cardiau credyd cwsmeriaid ar weinydd e-fasnach cyhoeddus.
  • Diogelwch eich manylion SSL a’u cadw’n gyfrinachol.
  • Os ydych yn ystyried y gall eich gwefan fod yn agored i achos o atal gwasanaeth neu ymosodiadau atal gwasanaeth gwasgaredig, dewch o hyd i arbenigwr diogelu rhag ymosodiadau atal gwasanaeth gwasgaredig sydd â’r wybodaeth a’r adnoddau perthnasol i ddiogelu eich busnes
  • Ystyriwch ddefnyddio cwmni profion hacio proffesiynol er mwyn profi’r amddiffynfeydd ar eich gweinydd e-fasnach.

Os byddwch yn defnyddio darparwr gweletya trydydd parti:

  • Adolygwch ei bolisi a threfniadau diogelwch ac argaeledd.
  • Gwnewch yn siŵr fod y cytundeb lefel gwasanaeth yn ddigonol ar gyfer eich anghenion.
  • Ystyriwch ddefnyddio cwmni profion hacio proffesiynol er mwyn profi’r amddiffynfeydd ar weinydd eich cwmni gweletya.

.

In Partnership With