English

Defnyddio Meddalwedd yn Ddiogel

Bron heb eithriad, mae pob busnes yn dibynnu ar un cyfrifiadur neu fwy – a meddalwedd felly – i weithredu. Mae nifer o ffactorau pwysig i’w hystyried wrth ddewis a defnyddio systemau gweithredu a chymwysiadau er mwyn iddynt barhau i fod yn effeithlon, yn ddiogel ac yn gyfreithlon. Mae wedi dod yn bwysicach arfer diwydrwydd mewn blynyddoedd diweddar am fod mwy o feddalwedd yn cael ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd neu’n cael ei gweletya ar y rhyngrwyd yn hytrach na chael ei chyflenwi ar ddisgiau.

Y risgiau

  • Torri hawlfraint meddalwedd, drwy wneud y canlynol
    • Rhedeg meddalwedd ar fwy o gyfrifiaduron nag y mae gennych drwyddedau ar eu cyfer.
    • Rhedeg copïau heb awdurdod (wedi’u lladrata) o feddalwedd.
    • Rhedeg fersiynau o feddalwedd (fel y rhai a werthwyd i’w defnyddio yn y cartref neu mewn addysg) at ddibenion busnes.
  • Llwytho meddalwedd ffug sy’n cyflwyno maleiswedd i’ch cyfrifiaduron, dyfeisiau symudol a rhwydwaith.
  • Llwytho meddalwedd sy’n achosi problemau technegol i’ch cyfrifiadur(on) gan achosi iddo/iddynt redeg yn araf neu nad yw’n gydnaws â’r system weithredu neu gymwysiadau eraill.
  • Lawrlwytho cymwysiadau mawr sy’n defnyddio lled band rhy fawr, sy’n arwain at draffig araf ar y rhyngrwyd neu’r rhwydwaith.
  • Defnyddio meddalwedd sydd heb ei phrofi neu nad yw’n addas at y diben a allai effeithio ar gywirdeb eich prosesau busnes (er enghraifft, peiriant cyfrifo gwallus yn rhoi ffigurau anghywir ar daenlenni).
  • Cyflogeion yn lawrlwytho ac yn defnyddio meddalwedd rhannu ffeiliau.
  • Maleiswedd yn cael ei lawrlwytho ar ddyfeisiau symudol ar ffurf cymwysiadau ffug.

Defnyddio meddalwedd yn ddiogel

  • Rhowch reolau llym ar waith ynghylch caffael, llwytho, rheoli, diweddaru a defnyddio meddalwedd – yn cynnwys cymwysiadau ar gyfer dyfeisiau symudol.
  • Defnyddiwch feddalwedd wedi’i thrwyddedu bob amser a gwnewch yn siŵr fod gennych y nifer gywir o drwyddedau (a elwir hefyd yn ‘seddi’) ar gyfer y cyfrifiaduron y mae wedi’i llwytho arnynt, gan eu hadolygu’n rheolaidd os yw’r busnes yn tyfu.
  • Ystyriwch fuddsoddi mewn meddalwedd a allai gael ei hehangu a fydd yn parhau i ymdopi â gofynion cynyddol y busnes.
  • Defnyddiwch y fersiwn gywir o’r feddalwedd (er enghraifft y fersiwn busnes neu fenter).
  • Wrth ddefnyddio unrhyw beth heblaw am feddalwedd oddi ar y silff (er enghraifft wedi’i datblygu yn fewnol neu wedi’i datblygu’n bwrpasol gan drydydd parti), gwnewch yn siŵr y caiff ei phrofi’n llym am ymarferoldeb a phresenoldeb maleiswedd.
  • Lawrlwythwch y diweddariadau meddalwedd diweddaraf pan gewch eich annog i wneud hynny. Fel arfer, mae diweddariadau yn ymwneud cymaint â diogelwch ag y maent ag ymarferoldeb.
  • Cynhaliwch brofion capasiti rheolaidd ar eich storfeydd, eich rhwydwaith a’ch cysylltiadau rhwydwaith.
  • Ystyriwch ddefnyddio meddalwedd fel gwasanaeth (SaaS) er mwyn hwyluso rheolaeth a defnydd cywir yn cynnwys trwyddedu, defnyddio a diweddariadau/patsys. Gwnewch yn siŵr fod eich meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd a waliau tân wedi’u diweddaru a’u hactifadu.

 

 

 

In Partnership With