English

Cymorth TG

Mae’r wefan hon wedi’i chynllunio er mwyn helpu sefydliadau bach a chanolig eu maint i sefydlu a chynnal y lefelau priodol o ddiogelwch ar gyfer systemau TG, dyfeisiau, busnesau a chyflogeion rhag materion sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein a diogelwch gwybodaeth. Fodd bynnag, ar yr un pryd, mae hefyd angen i chi gael cymorth ar gyfer eich technoleg … cyfrifiaduron a gweinyddion, dyfeisiau symudol, seilwaith, meddalwedd a chanolwedd. Mae’n hanfodol gwybod ble i gael cyngor o’r fath … yn ogystal â chael ffynhonnell ddibynadwy o help os bydd rhywbeth yn mynd o’i le. Dylech ganfod ac ymgysylltu â chyflenwr cymorth TG dibynadwy sydd wedi cael ei argymell gan rywun rydych yn ymddiried ynddo, ac sy’n gallu dangos galluogrwydd cadarn i ddarparu cyngor ar ddiogelwch ac ar ddatrys problemau.

Dewis partner cymorth

  • Gofynnwch i gydweithwyr, cyflenwyr, sefydliadau masnach a chwmnïau eraill pwy maen nhw’n ei ddefnyddio.
  • Chwiliwch ar-lein am ‘Gymorth TG’ yn eich ardal.

Chwiliwch drwy gyfeiriaduron o arbenigwyr ardystiedig yn y dechnoleg y bydd angen cymorth ar ei chyfer. Er enghraifft, ar gyfer cynhyrchion Microsoft neu Apple, chwiliwch drwy eu cyfeiriadur o bartneriaid sy’n meddu ar gymwysterau fel Microsoft Certified Solutions Expert (MCSE) neu Apple Certified Support Proffesional (ACSP)

  • Chwiliwch am y canlynol:
    • Tystiolaeth o brofiad perthnasol.
    • Rhywun a all eich helpu wrth i chi dyfu neu wrth i’ch anghenion newid.
    • Pobl sy’n deall eich caledwedd a’ch meddalwedd.
    • Cyfeiriadau ac argymhellion.
    • Dealltwriaeth o fusnes yn ogystal â thechnoleg.
    • Pobl a all siarad eich iaith, sy’n egluro problemau mewn ffordd rydych yn ei deall.
    • Cwmnïau sydd â digon o adnoddau i ddiwallu eich anghenion.

Yng nghyd-destun cymorth seiberddiogelwch a gwybodaeth, os gallwch ddod o hyd i ddarparwr sy’n meddu ar y cymwysterau perthnasol ac sy’n aelod o gorff diwydiannol, gallech ddefnyddio’r darparwr hwnnw ar gyfer eich gofynion cymorth diogelwch TG a seiber / gwybodaeth.

Cytundebau cymorth

Mae angen cytundeb ysgrifenedig arnoch – neu gontract cyfreithiol – sy’n diffinio mewn Saesneg plaen:

  • Beth yn union y bydd y darparwr cymorth yn ei wneud i chi – a beth maen nhw’n disgwyl i chi ei wneud eich hun.
  • Amserlen ar gyfer unrhyw waith prosiect a gaiff ei gynnal, er enghraifft pa mor hir y bydd yn ei gymryd i osod gweinydd newydd neu ddadgomisiynu hen un yn llwyr.
  • Cytundeb lefel gwasanaeth – pa mor gyflym y byddant yn ymateb i broblemau a’u datrys.
  • Pa lefel o gymorth ar ôl gwerthu y gallwch ei ddisgwyl os yw cyflenwi cyfarpar yn rhan o’r cytundeb.
  • Yn ddelfrydol, dadansoddiad cam wrth gam o unrhyw brosiect y byddant yn ei gynnal.
  • Strwythur ac amcangyfrif clir o ffioedd, p’un a yw’n gyfradd sylfaenol neu’n seiliedig ar gyfradd ddyddiol

 

In Partnership With