English

Cadwyn Gyflenwi

Os bydd unigolion neu sefydliadau eraill nad oes ganddynt awdurdod i’w gweld yn cael mynediad i’ch data a’ch gohebiaeth gyfrinachol (er enghraifft, negeseuon e-bost), gall y canlyniadau fod yn niweidiol iawn … gyda thwyll, dwyn hunaniaeth, ysbïwriaeth a diffyg cydymffurfiaeth â rheolau diogelu data yn enghreifftiau sy’n codi yn aml. Os oes gan eich busnes ddata cyfrinachol a/neu yn anfon neu’n derbyn negeseuon e-bost cyfrinachol, dylech ystyried amgrympio fel ffordd o’u diogelu rhag mynediad anawdurdodedig o’r fath.

Y ffordd mae amgryptio yn gweithio

Mae nifer o ddulliau amgryptio ar gael, a phob un ohonynt yn defnyddio allwedd amgryptio a dadgryptio sy’n gysylltiedig â’i gilydd. Caiff y wybodaeth i gael ei hamgryptio ei chodio gan ddefnyddio algorithm (fformiwla fathemategol), sy’n ei hatal rhag cael ei deall gan unrhyw un nad oes ganddo awdurdod i’w darllen.

Mae amgryptio a dadgryptio yn digwydd gan ddefnyddio meddalwedd y gellir ei llwytho ar y cyfrifiadur lle mae’r ffeiliau wedi’u gosod neu o’r fan yr anfonir negeseuon e-bost – a’u hagor o – neu gan yr allwedd amgryptio sy’n cyd-fynd â’r data eu hunain. Dylid penderfynu ar fodd a lefel yr amgryptio a ddewisir yn ôl sensitifrwydd y data dan sylw. Fel rheol, po fwyaf o fitiau a ddefnyddir ar gyfer yr amgryptiad y cryfaf fydd yr amgryptiad, felly mae amgryptiad 128-bit yn gryfach nag un 64-bit.

Gellir defnyddio dulliau amgryptio i ddilysu ffynhonnell e-bost a chywirdeb ei gynnwys.

Defnyddir amgryptio hefyd ar wefannau e-fasnach ac ar gyfer diogelwch rhwydweithio di-wifr a mynediad o bell, er mwyn atal achosion o glustfeinio a ffugio.

Dewis amgryptio

Fel arfer, mae’r defnydd o feddalwedd amgryptio yn gyflym ac yn syml. Fodd bynnag, gall y broses o weithredu meddalwedd amgryptio fod yn heriol yn dechnegol yn dibynnu ar eich seilwaith TG a’r feddalwedd ei hun. Dylid cymryd gofal i ddewis eich meddalwedd amgryptio yn unol â’ch anghenion penodol a’r lefel o risg. Efallai y byddwch am ymgynghori â darparwr cymorth TG neu arbenigwr diogelwch trydydd parti.

In Partnership With