English

Cadw copïau wrth gefn

Mae’n debyg bod y wybodaeth a gedwir ar eich systemau cyfrifiadurol a’ch dyfeisiau yn unigryw. Os caiff ei cholli eu ei llygru o ganlyniad i ladrad, cael ei pheryglu’n droseddol, difrod ffisegol neu fethiant technegol, mae eich sefydliad yn wynebu risgiau lluosog posibl. Mae’r rhain yn cynnwys ymyriadau busnes (yn achos cofnodion cwsmeriaid a chyflenwyr, ffeiliau cyfrifon, negeseuon e-bost a rhaglenni meddalwedd), colli refeniw, colli enw da, diffyg cydymffurfiaeth â rheoliadau data ac ymgyfreitha esgeulustod. Gallech chi a/neu bobl eraill yn y sefydliad gael eich dal yn gyfrifol yn unigol hefyd.

Bydd gwneud copïau wrth gefn o’ch data yn gywir ac yn rheolaidd yn helpu i ddiogelu yn erbyn y digwyddiadau uchod.

Y risgiau

  • Caledwedd yn methu neu’n cael ei difrodi (er enghraifft, mae caledwedd yn methu yn digwydd yn aml).
  • Dileu ffeil ar ddamwain.
  • Dileu neu lygru ffeil wrth ddiweddaru systemau gweithredu a meddalwedd arall.
  • Cyfrifiaduron, gweinyddion a dyfeisiau symudol yn cael eu colli neu eu dwyn.
  • Tân, llifogydd, difrod damweiniol.
  • Feirws neu heintiau ysbïwedd trychinebus.
  • Data yn cael eu dileu ar-lein heb awdurdod neu drwy ddulliau sy’n ffisigol gysylltiedig.

Gall gyriannau caled cyfrifiaduron modern a hyd yn oed ddyfeisiau symudol ddal symiau anferth o ddata, sy’n golygu y gallai canlyniadau colli data drwy unrhyw un o’r dulliau uchod fod yn drychinebus i’ch busnes.

Cadwch gopïau o’ch data yn briodol a chadw eich data yn ddiogel

Mae amrywiaeth o ddulliau gwahanol o gadw copïau wrth gefn o’ch data ar gael (gweler isod). Pa un bynnag y byddwch yn ei ddewis, mae’n hanfodol arsylwi’r canlynol:

  • Cynlluniwch ar gyfer achos o golli eich holl ddata (er enghraifft, os bydd gweinydd yn methu neu os caiff eich gliniadur ei ddwyn a allai gynnwys data hanfodol, unigryw).
  • Os byddwch yn cadw copïau wrth gefn o’ch data ar yriant caled allanol, gwnewch yn siŵr ei fod yn cael ei storio mewn eiddo gwahanol er mwyn atal eich data wrth gefn rhag cael ei ddwyn neu ei ddifrodi ynghyd â’ch dyfeisiau eraill neu seilwaith TG.
  • Os yw eich dyfais wrth gefn yn eich galluogi i wneud hynny, diogelwch gopïau wrth gefn â chyfrineiriau er mwyn diogelu eich preifatrwydd.
  • Gwnewch yn siŵr fod y data rydych yn gwneud copïau wrth gefn ohonynt ar gael bob amser i bobl sydd ag awdurdod i gael gafael arnynt.

Dulliau Cadw Copïau Wrth Gefn

Mae dwy brif ddull o gadw copïau wrth gefn. Er mwyn dewis pa un i’w ddefnyddio, mae angen i chi ystyried y capasiti sydd ei angen, pa mor rhwydd ydyw i’w ddefnyddio, cyflymder, pris a chywirdeb.

Gyriannau Caled Cludadwy

Mae disgiau caled allanol yn ffordd gyflym ac effeithlon o gadw copïau wrth gefn o’ch data. Mae modelau ar gael sydd naill ai’n plygio i mewn i borth USB eich cyfrifiadur, neu’n cysylltu drwy eich rhwydwaith di-wifr. Mae’r rhan fwyaf yn ddigon cryno fel y gellir eu storio yn hawdd oddi ar y safle.

Fel arfer, mae’r rhain yn amrywio o fodelau 320 Gigabyte (320,000 Megabyte) sy’n costio llai na £50, i’r rhai sy’n darparu hyd at 4 Terabytes (4,000 Gigabytes) am lai na £200 … a hyd at 8 Terabyte hyd yn oed. I roi syniad i chi o faint y storfa, fel arfer bydd un ffotograff o ansawdd rhesymol a gymerwyd ar gamera digidol neu ffôn camera rhwng 1 a 5 Megabyte. Bydd ffeil gerddoriaeth mewn fformat MP3 rhwng 3 ac 8 Megabyte. Felly hyd yn oed ar yriant 320 Gigabyte, gallech ffitio mwy na 100,000 o ffotograffau o faint cyfartalog neu 64,000 o draciau cerddoriaeth.

Mae llawer o yriannau caled cludadwy yn cynnwys meddalwedd sy’n cynnig nodwedd ‘un cyffyrddiad’ sy’n cadw copïau wrth gefn o’ch data drwy gyffwrdd botwm, neu yn awtomatig ar ysbeidiau a bennir ymlaen llaw. Mae’r rhain wedi’u cynllunio i atal camgymeriadau dynol (“fe wnes i anghofio” neu “bydda i’n ei wneud yn y man”).

Gwnewch yn siŵr eich bod yn profi y gellir adfer y data rydych wedi gwneud copïau wrth gefn ohonynt ar eich gyriant caled cludadwy yn hawdd os bydd angen. Dylech brofi hyn gan ddefnyddio cyfrifiadur gwahanol er mwyn sicrhau bod y copïau wrth gefn yn cydweddu – ac y gellir ei adfer – rhag ofn i chi golli eich cyfrifiadur presennol.

Cadw Copïau Wrth Gefn (Cwmwl) Ar-lein

Mae’r defnydd o gyfleuster cadw copïau wrth gefn ar-lein (a elwir yn ‘gwmwl’) yn gyffredin oherwydd ei gyfleuster ychwanegol, y ffaith ei fod yn ddiogel ac yn rhad.

Does bron dim cyfyngiad ar faint o ddata y gellir cadw copïau wrth gefn ohonynt yn y cwmwl. Mae rhai darparwyr yn rhoi lle storio cyfyngedig am ddim, ond fel arfer, mae cost cadw copïau wrth gefn yn cynyddu yn gymesur â swm y data dan sylw.

Mae llawer o ddarparwyr cyfleusterau cadw copïau wrth gefn o ddata. Mae’r rhain yn cynnwys darparwyr gwasanaethau’r rhyngrwyd, gwerthwyr meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd a chwmnïau fel Apple gydag iCloud a Microsoft gyda OneDrive – i werthwyr dulliau gwneud copïau wrth gefn yn ddiogel arbenigol.

Mae’r Cwmwl yn cael ei ddefnyddio fwyfwy fel prif storfa yn ogystal ag er mwyn cadw copïau wrth gefn o ddata. Mae hyn yn eich galluogi i gael gafael ar eich data o unrhyw ddyfais unrhyw le yn y byd heb orfod cludo’r data gyda chi, gyda’i risgiau diogelwch cysylltiedig. Mae defnyddio’r Cwmwl fel prif storfa hefyd yn sicrhau diogelwch y data gan fod darparwyr yn cadw copïau wrth gefn o’ch data yn ogystal â’i storio. Mae hyn yn goresgyn y rhan fwyaf o’r risgiau sy’n gysylltiedig â storio data ar eich dyfeisiau.

Cyngor arall

Peidiwch â defnyddio ffyn cof USB, CDs recordiadwy neu DVDs i ategu eich data. Er y gall y rhain ymddangos yn ddulliau rhad a chyfleus, mae ganddynt gapasiti cyfyngedig ac maent hefyd yn hawdd eu colli neu eu dwyn – neu’n gallu cael eu heintio â gwahanol fathau o ddrwgwedd. Mae CDs a DVDs hefyd yn araf iawn i drosglwyddo’ch data.

In Partnership With