English

Bancio

Mae bancio ar-lein yn gyfleus iawn i fusnesau ond mae’n rhaid i chi ddiogelu eich cyfrinair a’ch manylion mewngofnodi eraill er mwyn atal troseddwyr rhag cael mynediad i’ch cyfrifon. Oherwydd y symiau o arian a’r trafodion aml a geir, mae mwy a mwy o dwyllwyr yn targedu bancio ar-lein.

Y risgiau

  • Gallech chi neu eich cydweithwyr gael eich twyllo gan negeseuon e-bost gwe-rwydo neu alwadau ffôn llais-rwydo i ddatgelu eich cyfrinair a’ch manylion ar wefannau bancio ffug, neu i bobl sy’n gwneud galwadau ffôn ffug.
  • Achosion o dwyll neu ddwyn hunaniaeth a achosir gan feirysau neu ysbïwedd, sy’n rhoi mynediad i droseddwyr i’r cyfrifon banc a gwybodaeth bersonol arall sydd wedi’i storio ar eich cyfrifiadur.

Bancio diogel

  • Peidiwch byth â datgelu cyfrineiriau na gwybodaeth gyfrinachol arall mewn ymateb i e-bost, galwad ffôn na llythyr y mae’n ymddangos eu bod gan eich banc neu sefydliad ariannol arall – ni waeth pa mor ddilys maen nhw’n ymddangos. Ni fydd banciau byth yn anfon negeseuon e-bost atoch nac yn eich ffonio yn gofyn i chi ddatgelu gwybodaeth o’r fath. Bydd unrhyw ohebiaeth o fanciau yn defnyddio eich enw go iawn (nid ‘Syr’ na ‘Madam’) a dilysiad arall o bwy ydych chi o bosibl fel eich cyfringod neu ran o rif eich cyfrif. Os nad ydych yn siŵr a yw e-bost yn ddilys, cysylltwch â’ch banc mewn ffordd arall.
  • Gwnewch yn siŵr eich bod yn defnyddio cysylltiad rhyngrwyd diogel er mwyn cysylltu â’ch banc. Chwliwch am ‘https’ ar ddechrau’r cyfeiriad a’r symbol clo clap yn ffrâm y porwr. Fodd bynnag, cofiwch fod hyn ond yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
  • Dim ond drwy roi’r cyfeiriad yn eich porwr neu ddefnyddio nod tudalen rydych wedi’i greu gan ddefnyddio’r cyfeiriad cywir y dylech ymweld â gwefan eich banc. Os ydych o’r farn y gallai eich manylion fod wedi’u peryglu mewn rhyw ffordd, cysylltwch â’r banc.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd effeithiol wedi’i diweddaru cyn i chi fewngofnodi i’ch cyfrif banc.
  • Defnyddiwch gyfrinair a rhif PIN gwahanol ar gyfer pob gwefan.
  • Defnyddiwch gyfrineiriau cryf a PIN. Ni ddylid datgelu cyfrineiriau a rhifau PIN i unrhyw un heblaw am y person y cawsant eu cyhoeddi iddo. Ni ddyid eu hygrifennu na’u storio ar gyfrifiaduron na dyfeisiau symudol.
  • Ystyriwch sefydlu awdurdod deuol gyda’ch banc, yn enwedig ar gyfer trafodion uwchlaw terfyn a ragosodwyd a allai fod yn rhai twyllodrus.
  • Byddwch yn glir gyda’ch banc pwy sy’n atebol am golled mewn achos o dwyll. Darllenwch ei delerau ac amodau ac os nad ydych yn siŵr, holwch reolwr busnes eich banc.
  • Os byddwch yn cael galwad ffôn yn honni ei bod wrth eich banc neu sefydliad ariannol arall ac y gofynnir i chi ffonio’n ôl, gwnewch hynny gan ddefnyddio ffôn arall neu arhoswch o leiaf bum munud cyn gwneud hynny. Gall twyllwyr gadw’r llinell ffôn ar agor a hyd yn oed efelychu rhifau ffôn sy’n ymddangos ar eich sgrin arddangos galwadau.
  • Os byddwch yn sylwi ar unrhyw drafodion anarferol yn eich datganiad, rhowch wybod amdanynt ar unwaith.
  • Gwrthodwch yr opsiwn ar gyfer datganiadau papur a chofrestrwch ar gyfer trefniant bancio ar-lein gyda hysbysiadau ar ffôn symudol. Gellir rhyng-gipio datganiadau papur yn hawdd a’u darllen.
  • Trefnwch eich bod yn cael diweddariadau Windows.
  • Ni ddylech chi a’ch cydweithwyr fyth fancio ar-lein o gyfrifiaduron cyhoeddus (er enghraifft, mewn caffi rhyngrwyd)
  • Byddwch yn ymwybodol o bobl yn ‘syrffio dros ysgwydd’ yn gweld eich sgrin.
  • Peidiwch â chymryd yn ganiataol bod bysellfyrddau meddal (ar sgrin) yn fwy diogel na bysellfyrddau ffisegol (o ran eu bod yn gallu gwrthsefyll maleiswedd fel cofnodwyr trawiadau bysellau). Maent yr un mor agored i niwed.

Awdurdodiad dau ffactor

Mae sawl banc  yn defnyddio awdurdodiad dau ffactor er mwyn cael tystiolaeth gryfach o bwy ydych chi na thrwy ddefnyddio cyfrineiriau yn unig. Y ddau ffactor yw ‘rhywbeth rydych yn ei wybod’ (fel arfer eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair) a ‘rhywbeth sydd gennych’ sef naill ai eich cerdyn banc gyda darllenydd cerdyn, neu ddyfais annibynnol sy’n creu cod sy’n unigryw i chi, ac sy’n wahanol bob tro y byddwch yn mewngofnodi.

Meddalwedd diogelwch bancio ychwanegol

Mae rhai banciau yn defnyddio meddalwedd diogelwch ychwanegol wedi’i chynllunio’n benodol i’ch diogelu pan fyddwch yn bancio ar-lein. Daw ar ffurf meddalwedd y gellir ei lawrlwytho am ddim o’r banciau hyn ac mae’n diogelu trafodion ariannol yn ogystal â meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd arferol.

Rhagor o Wybodaeth

Mae gan bob banc wybodaeth diogelwch ar-lein ar ei wefan, yn cynnwys gwybodaeth am achosion hysbys o dwyll.

Hefyd, ewch i:

Cofnod Miller Smiles o’r sgamiau ar-lein diweddaraf.

Os ydych wedi wynebu twyll gwirioneddol neu ymgais i dwyllo, rhowch wybod amdano i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 2040 40 neu drwy http://www.actionfraud.police.uk  

 

 

In Partnership With