English

Atal Achosion o Golli Data

Dylai atal eich data rhag mynd ar goll neu fynd i’r dwylo anghywir fod yn rhan allweddol o’ch strategaeth TG … a’ch gwaith cymhennu o ddydd i ddydd. Gall canlyniadau digwyddiadau o’r fath gynnwys torri cyfrinachedd, cosbau am ddiffyg cydymffurfio, ysbïwriaeth, colledion ariannol (i’ch busnes, cyflogeion a chwsmeriaid) a pheryglu enw da.

Y risgiau

  • Achosion o ddwyn data, colli data yn anfwriadol neu atgynhyrchu data heb awdurdod ar ddyfeisiau symudol (fel gliniaduron, llechi, ffonau clyfar a dyfeisiau USB cysylltiedig).
  • Data yn cael ei anfon yn amhriodol dros e-bost.
  • Data yn cael ei lanlwytho yn amhriodol i wefan, safle ftp neu storfa ar gwmwl.
  • Data yn cael ei argraffu yn amhriodol.
  • Data yn cael ei dynnu o’r cwmni ar CD neu DVD.
  • Achosion anghyfreithlon o ddata yn cael eu symud, defnyddio, trosglwyddo neu werthu gan gyflogeion sy’n gadael neu gyflogeion llwgr neu’r rhai sy’n dal dig.

Diogelwch eich data

Mae nifer o ddulliau y gallwch eu defnyddio i ddiogelu eich data:

  • Cynhaliwch ddadansoddiad risg drwy adolygu’r wybodaeth a gaiff ei storio ar rwydwaith y cwmni, yn y cwmwl ac ar ddyfeisiau unigol, pwy sydd â mynediad iddi a chanlyniad y golled.
  • Sefydlu proses o ddosbarthu dogfennau er mwyn nodi categorïau cyfrinachedd.
  • Rheoli pwy sydd â mynediad i ba ddata drwy bennu lefelau mynediad.
  • Sefydlu a gorfodi polisïau clir ynghylch beth y gall cyflogeion ei wneud â data cyfrinachol neu sy’n hanfodol ar gyfer busnes. Addysgu’r gweithlu.
  • Addysgu staff ar ddiwydrwydd ynghylch awdurdodi mynediad i ddata a’r sawl sy’n derbyn negeseuon e-bost a rhestrau o’r sawl sy’n cael eu copïo mewn negeseuon.
  • Gwahardd neu gyfyngu ar y defnydd o ddyfeisiau symudol.
  • Dadalluogwch byrth USB naill ai drwy ddulliau electronig neu ffisegol.
  • Sefydlwch bolisi BYoD (Dod â’ch Dyfais Eich Hun).
  • Amgryptio data corfforaethol.
  • Ystyriwch brynu datrysiad Atal Colli Data masnachol.

 

 

 

In Partnership With