English

Trais Ar-lein ar sail Rhywedd

Mae’r rhyngrwyd wedi trawsnewid ein gallu i gael gwybodaeth, cyfathrebu ag eraill, mynegi ein barn, rhannu ein profiadau a chymryd rhan mewn sgyrsiau am unrhyw bwnc o’n dewis. Mae technoleg wedi’i gwneud yn bosibl cyrraedd cynulleidfaoedd eang ar yr un pryd, neu unigolion neu grwpiau bach yn unig. Yn eu tro, mae’r hygyrchedd a’r rhyddid mynegiant hyn yn chwarae rôl bwysig o ran galluogi ystod eang o hawliau dynol.

Fodd bynnag, mae natur agored a chymharol ddilywodraeth y rhyngrwyd wedi arwain at lefel uchel o drais ar-lein, ac mae menywod, merched a lleiafrifoedd rhywiol yn cael eu targedu’n anghymesur.

Y risgiau

Mae trais ar-lein a ddioddefir gan fenywod, merched a chymunedau SOGI (Cyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd) yn cynnwys:

  • Bygythiadau o drais corfforol, rhywiol a mathau eraill o drais
  • Aflonyddu rhywiol neu fathau eraill o aflonyddu
  • Seiberstelcio
  • Trolio ar sail rhyw a rhywedd
  • Secstio
  • Cyhoeddi delweddau, fideos neu glipiau sain personol heb ganiatâd
  • Cael mynediad at ddata preifat drwy hacio
  • Creu a dosbarthu newyddion ffug am unigolyn a dargedir
  • Ymgais i flacmelio ac achosion llwyddiannus o flacmelio
  • ‘Doxxing’ (cael mynediad at wybodaeth breifat unigolyn a’i rhannu ar-lein)
  • Tarfu ar gyfarfodydd rhithwir (‘Zoombombing’ – delweddau pornograffaidd yn cael eu dangos yn ystod galwadau neu gyfarfodydd fideo gan bartïon nas gwahoddwyd)

Gall unrhyw un o’r uchod arwain at ganlyniadau difrifol a chwbl annerbyniol i’r unigolyn gan amrywio o gywilydd, yn y sefyllfa orau, i golli urddas a thrawma meddyliol difrifol yn y sefyllfa waethaf, a all arwain at ynysigrwydd, hunan-niweidio a hyd yn oed hunanladdiad. Yn nodedig, bydd dioddefwyr hefyd yn aml yn rhoi’r gorau i ddefnyddio’r rhyngrwyd, gan golli’r holl fanteision cysylltiedig yn ogystal â’u hymdeimlad o bŵer a’u mynediad at hawliau dynol sylfaenol.

Gall hyn fynd hyd yn oed yn waeth oherwydd, yn aml, caiff dioddefwyr trais ar-lein eu beio am y digwyddiad, oherwydd eu safbwyntiau, eu hymddygiad preifat neu’r ffaith eu bod wedi ceisio amddiffyn eu hunain neu wrthsefyll y gamdriniaeth.

Gall trais ar-lein ar sail rhywedd fod ar ffurf digwyddiad untro neu, yn fwy tebygol, ymgyrch barhaus i dargedu’r unigolyn. Gall fod yn gyfyngedig i sianeli ar-lein fel e-bost, SMS, negeseuon uniongyrchol, y cyfryngau cymdeithasol neu wefannau, neu gall gael ei gyflawni ar y cyd â fersiynau yn y ‘byd go iawn’ o’r un math o drais. Y prif wahaniaeth rhwng y ddau yw y gall cyflawnwyr ledaenu’r trais yn eang oherwydd natur feirol y rhyngrwyd.

Nid dim ond y rhai sy’n dechrau’r trais sy’n gyfrifol am y niwed a wneir, ond hefyd y rhai sydd naill ai’n ymuno â nhw drwy dargedu’r dioddefwr yn uniongyrchol, neu’n ei ledaenu drwy eu sianeli eu hunain, gan gynnwys ar lafar gwlad yn eu cymunedau eu hunain (weithiau’n anymwybodol o’u rhan yn y gadwyn).

Mae nifer yr achosion o drais ar-lein ar sail rhywedd wedi cynyddu’n sylweddol ers dechrau pandemig COVID-19. Yn anffodus, mae’r cynnydd diweddar mewn caledi economaidd, symudiadau cyfyngedig, ynysigrwydd cymdeithasol a phroblemau iechyd meddwl wedi creu’r cyflyrau delfrydol i gyflawnwyr.

Beth i’w wneud os cewch eich targedu gan drais ar sail rhywedd

 Siaradwch ag aelod o’ch teulu, ffrind, cydweithiwr neu addysgwr rydych yn ymddiried ynddo i beidio â’ch barnu na lledaenu na rhoi gwybod am eich pryderon i’r gymuned ehangach.

  • Peidiwch ag ymateb i’r cyflawnwr na’r rhai sy’n gyfrifol am ledaenu’r trais, gan y bydd hyn ond yn arwain at ddigwyddiadau pellach, gan gynnwys bygythiadau digymell.
  • Rhwystrwch y cyflawnwr a’r rhai sy’n lledaenu’r trais.
  • Os bydd y trais ar ffurf rhannu deunydd personol ar-lein, rhowch wybod amdano i’r wefan neu’r llwyfan cyfryngau cymdeithasol dan sylw, gofynnwch iddo gael ei dynnu oddi yno ac i’r defnyddiwr cyfrifol gael ei flocio.
  • Rhowch wybod am fwlio ar-lein, camdriniaeth yn seiliedig ar ddelwedd neu ffurfiau eraill ar gam-drin ar-lein i’r heddlu.
  • Rhowch wybod i’r heddlu am fygythiadau o niwed corfforol, blacmel, stelcio, hacio neu rannu deunydd preifat.
  • Os yw trais ar-lein ar sail rhywedd wedi peri trawma i chi, gallwch geisio cymorth seicolegol proffesiynol. Mae nifer o gymunedau cymorth perthnasol ar gael ar lwyfannau cyfryngau cymdeithasol hefyd, ond gwnewch yn siŵr bod unrhyw rai y byddwch yn ymuno â nhw yn ddilys.

Os cewch eich temtio i dargedu unrhyw un gan ddefnyddio unrhyw un o’r mathau uchod o drais, p’un a gânt eu dechrau gennych chi neu gan rywun arall, meddyliwch ddwywaith. Ystyriwch yr effaith ar y dioddefwr bwriadedig a’r ffaith y gallech fod yn cyflawni trosedd hefyd. Mae’r un peth yn wir am anfon y math hwn o ddeunydd ymlaen at bobl eraill, neu ei rannu mewn ffordd arall, naill ai ar-lein neu all-lein.

See Also...

In Partnership With