English

Taliadau Ar-lein

Mae defnyddio’r rhyngrwyd i wneud taliadau i gwmnïau cyfleustodau, ffôn, cardiau credyd, yswiriant a chwmnïau eraill yn arbed llawer o amser ac ymdrech. Mae hefyd yn ffordd syml a chyfleus o gyfrannu at elusen naill ai’n uniongyrchol neu drwy noddi cyfranogwyr mewn gweithgareddau codi arian. Fodd bynnag, mae risgiau yn gysylltiedig â thaliadau ar-lein ac mae angen i chi gymryd gofal wrth eu gwneud.

Y risgiau

  • Twyll sy’n deillio o wneud taliadau dros wedudalennau anniogel.
  • Negeseuon e-bost sy’n eich cyfeirio at wefannau ffug sydd wedi’u sefydlu er mwyn casglu manylion eich cardiau talu.

Taliadau Diogel

Fel arfer, mae taliadau ar-lein yn rhan o’ch trefniant gyda darparwr gwasanaeth fel dewis amgen i dalu drwy Ddebyd Uniongyrchol neu siec. Felly, yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y talai yn gyfarwydd i chi, ond rhaid i chi gymryd gofal er mwyn gwneud yn siŵr eich bod ar safle dilys y darparwr.

  • Cofiwch fod talu â cherdyn credyd yn eich amddiffyn yn well na dulliau eraill rhag twyll.
  • Dylech wirio bod holl fanylion eich taliad yn gywir cyn cadarnhau. Cyn rhoi manylion cerdyn talu ar wefan, gwnewch yn siŵr fod y ddolen yn ddiogel, mewn dwy ffordd:
    • Dylai fod symbol clo clap yn ffrâm ffenestr y porwr, sy’n ymddangos pan fyddwch yn ceisio mewngofnodi neu gofrestru. Gwnewch yn siŵr nad yw’r clo clap ar y dudalen ei hun … mae’n debyg y bydd hyn yn arwydd o safle twyllodrus.
    • Dylai’r cyfeiriad gwe ddechrau gyda ‘https://’. Mae’r ‘s’ yn golygu ei bod yn ddiogel.
  • Mae’r uchod yn dangos bod y cyswllt rhyngoch chi a pherchennog y wefan yn ddiogel, ond nid yw’n dangos bod y safle ei hun yn ddilys. Mae angen i chi wneud hyn yn ofalus drwy chwilio am achosion cynnil o gamsillafu yn y cyfeiriad, geiriau a nodau ychwanegol ac achosion eraill o afreoleidd-dra.
  • Wrth wneud taliad i unigolyn, defnyddiwch safle taliad diogel fel PayPal – peidiwch byth â throsglwyddo’r arian yn uniongyrchol i mewn i’w cyfrif banc.
  • Edrychwch ar bolisi preifatrwydd y wefan.
  • Dylech bob amser allgofnodi o safleoedd rydych wedi mewngofnodi iddynt neu roi manylion cyfrestru arnynt. Nid yw cau eich porwr yn ddigon i sicrhau preifatrwydd.
  • Cadwch dderbynebau – rhai electronig neu fel arall.
  • Darllenwch ddatganiadau cardiau credyd a banc yn ofalus ar ôl gwneud taliad er mwyn gwneud yn siŵr bod y swm cywir wedi cael ei ddebydu, a hefyd nad oes unrhyw dwyll wedi digwydd o ganlyniad i’r trafodyn.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd wrthfeirysol/gwrthysbïwedd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.

Rhagor o Wybodaeth

Os ydych chi’n credu eich bod wedi dioddef twyll: Rhowch wybod i Action Fraud, sef canolfan genedlaethol y DU ar gyfer rhoi gwybod am dwyll ar 0300 123 20 40 neu yn www.actionfraud.police.uk. 

Os ydych wedi profi seiberdrosedd, gallwch gysylltu â’r elusen Cymorth i Ddioddefwyr i gael cymorth a gwybodaeth gyfrinachol am ddim.

 

In Partnership With