English

Cymynroddion Digidol

Pan fydd pobl farw, byddant yn gadael eu hasedau ffisegol a’u harian i fuddiolwyr a allai fod yn aelodau teulu, yn ffrindiau neu’n gydnabod neu’n hoff elusennau. Caiff hyn ei drefnu ymlaen llaw drwy wneud ewyllys neu – os nad oes ewyllys – drwy benderfyniad a wneir gan y llys. Y dyddiau hyn, mae’r rhan fwyaf ohonom ni hefyd yn gadael asedau amrywiol ar-lein, yn cynnwys ein proffiliau ar-lein, cyfrifon e-bost, negeseuon a chynnwys arall yn y cyfryngau cymdeithasol a chyfrifon rhannu cynnwys, a ffeiliau sydd wedi’u storio yn y cwmwl. Mae llawer o ddryswch a thrafodaeth gynyddol ynghylch beth y dylech ei wneud er mwyn diogelu eich asedau digidol er budd y sawl sy’n eich goroesi a’ch olynu, neu drefnu bod eich cyfrifon yn cael eu dileu.

Y risgiau

  • Ni fydd lluniau, fideos, llyfrgelloedd cerddoriaeth nac atgofion gwerthfawr eraill ar gael i deulu a ffrindiau, felly mae’n bosibl y byddant yn cael eu colli am byth
  • Olynwyr yn methu â chau cyfrifon a ddelir yn enw’r person sydd wedi marw, yn cynnwys cyfrifon trafodion
  • Olynwyr yn methu â chadw mewn cysylltiad â chysylltiadau ar-lein

Blaenoriaethau

Y flaenoriaeth bwysicaf yw gwneud yn siŵr y gellir cau cyfrifon ar-lein sy’n cynnwys gwybodaeth am daliadau ar unwaith pan fydd y person farw er mwyn atal twyll neu achosion o ddwyn hunaniaeth, neu bod taliadau dilys parhaus yn cael eu cymryd. Ymysg y rhain mae safleoedd bancio, safleoedd bancio/arwerthiant, cyfleustodau, telathrebu, adloniant, chwarae gemau, hapchwarae a safleoedd caru. Bydd y cwmnïau neu safleoedd dan sylw yn gallu rhoi cyngor ar ba gamau gweithredu i’w cymryd.

Diogelu eich asedau

Mae nifer o ffyrdd o helpu i sicrhau na fydd asedau digidol yn cael eu colli ar ôl i berson farw. Mae gormod o wefannau a gwasanaethau ar-lein i’w crybwyll ar y dudalen hon, felly rydym wedi sôn am rai o’r rhai a ddefnyddir fwyaf cyffredin. Ein prif gyngor yw cynnwys eich dymuniadau o ran pob cyfrif neu gyfrifon unigol – yn cynnwys manylion mewngofnodi a manylion mynediad eraill – yn eich ewyllys a’i chadw yn ddiogel gyda’ch cyfreithiwr.

Cyfryngau cymdeithasol

Mae gan rai safleoedd rhwydweithio cymdeithasol bolisïau sy’n gysylltiedig â’r hyn sy’n digwydd i gyfrifon defnyddwyr pan fyddant farw. Gydag eraill, bydd y cyfrifon yn parhau’n segur nes cânt eu dileu oherwydd diffyg gweithgarwch … neu bydd aelodau’r teulu neu ffrindiau yn gweithredu.

Facebook

Mae gan Facebook ffurflen i berthnasau neu ffrindiau ofyn am i gyfrifon gael eu dileu ar ôl i’r person farw, neu i’r proffil gael ei goffáu, sy’n golygu na fydd y person sydd wedi marw yn ymddangos yn y blwch ‘awgrymiadau’ a ‘pobl y gallech fod yn eu hadnabod’, ond byddwch yn dal i fod yn weladwy i bawb sydd wedi agor eu proffil. Yn dibynnu ar y gosodiadau preifatrwydd, gall ffrindiau a theulu rannu atgofion am y person hwnnw.

Twitter

Gall Twitter gau cyfrifon a darparu archif o drydariadau cyhoeddus ar gyfer defnyddwyr sydd wedi marw. Mae’n rhaid i’r cais i wneud hyn gael ei wneud gan aelod uniongyrchol o’r teulu neu berson sydd wedi’i awdurdodi i weithredu ar ran yr ystad. Mae’r weithdrefn wedi’i nodi ar safle cymorth Twitter yma.

Google (yn cynnwys YouTube a Google Play)

Mae nodwedd ‘Inactive Account Manager’ Google yn galluogi defnyddwyr i sefydlu proses i drosglwyddo perchenogaeth a rheolaeth dros gyfrifon anweithredol i ddefnyddiwr penodol. Gallai eich asedau Google gynnwys Google+ Google Docs, Gmail, lluniau Picasa a fideos YouTube, ymysg eraill. Pan fydd yn hysbys bod defnyddiwr wedi marw, gall Google weithio gydag aelodau uniongyrchol o’r teulu a chynrychiolwyr i gau cyfrifon ar-lein. O dan amgylchiadau penodol, gall ddarparu cynnwys o gyfrif defnyddiwr sydd wedi marw.

MySpace

Bydd MySpace yn cadw neu’n dileu proffiliau defnyddwyr sydd wedi marw ar gais y berthynas agosaf neu weithredwr yr ystad. Mae’r safle hefyd yn caniatáu i ddefnyddwyr sydd wedi marw gael eu coffáu.

e-bost

Mae Gmail a Hotmail yn caniatáu mynediad i gyfrifon e-bost pobl sydd wedi marw, os caiff gofynion penodol eu bodloni. Ni fydd Yahoo! Mail yn rhoi mynediad o’r fath.

Dropbox

Nid oes gan Dropbox bolisi penodol ar gyfer cyfrifon pobl sydd wedi marw. O dan ei delerau cyffredinol, caiff cyfrifon Dropbox anweithredol eu dileu ar ôl 90 diwrnod ers y tro diwethaf i rywun fewngofnodi.

Wikipedia

Fel arfer, caiff tudalennau defnyddwyr Wikipedia eu diogelu fel na ellir eu golygu ar ôl i’r defnyddiwr farw, er mwyn atal pobl heb awdurdod rhag golygu neu fandaleiddio’r tudalennau, yn cynnwys trolio. Mae gan Wikipedia dudalen goffáu ganolog i gofio defnyddwyr sydd wedi cyfrannu neu olygu’n helaeth.

iTunes

Nid yw telerau ac amodau iTunes Store Apple yn sôn beth fydd yn digwydd os bydd person farw, ond mae yn nodi’r canlynol: “You may not rent, lease, lend, sell, transfer distribute, or sublicense the Licensed Application and, if you sell your Mac Computer or iOS Device to a third party, you must remove the Licensed Application from the Mac Computer or iOS Device before doing so.” Mae hyn yn golygu bod cynnwys – yn cynnwys cerddoriaeth, fideos, podlediadau, apiau a chynnwys a gaiff eu storio yn iCloud –  yn dal i fod wedi’i gloi i’r cyfrif ac na ellir ei drosglwyddo i berson arall, hyd yn oed ar ôl marwolaeth. Fodd bynnag, mae Apple yn trin ceisiadau dilys am gyfrifon person sydd wedi marw gael eu cymryd drosodd gan berthynas yn llawn cydymdeimlad a’r cam cyntaf fyddai e-bostio [email protected] er mwyn trafod y sefyllfa.

Os caiff dyfais Apple ei throsglwyddo pan fydd rhywun farw, gellir newid yr enw, e-bost a chyfrinair a’r manylion talu os bydd perthynas neu berson awdurdodedig arall yn cael mynediad i’r cyfrif. Mae hyn yn enghraifft dda o bwysigrwydd gadael manylion mewngofnodi ar-lein mewn ewyllys. Dylid nodi cyfringod neu PIN y ddyfais hefyd, oherwydd bydd y manylion mewngofnodi yn aneffeithiol os na ellir cael mynediad i’r ddyfais yn y lle cyntaf.

Mae gan Apple hefyd wasanaeth sy’n golygu y gellir cau cyfrif i lawr yn llwyr.

See Also...

In Partnership With