English

Cam-drin Ar-lein

Mae’r cyfryngau cymdeithasol wedi golygu ei bod yn hawdd iawn i ni gyfathrebu’n gyflym ac yn hawdd gyda theulu, ffrindiau a chydnabod, yn ogystal â rhannu profiadau a lleisio ein barn a’n credoau. Gall y farn hon a’r credoau hyn fod am ddigwyddiadau’r byd neu faterion lleol, gwleidyddiaeth neu grefydd, diddordebau, ymlyniadau, sefydliadau, cynhyrchion, pobl ac amrywiaeth eang o bynciau eraill. Gall ein sgyrsiau a’n sylwadau gael eu targedu’n agos neu eu darlledu’n eang hyd nes gallant fynd yn feirol, yn dibynnu ar y pwnc.

Yn anffodus, mae’r cyfryngau cymdeithasol hefyd yn cael eu defnyddio’n eang gan gamdrinwyr, am yr union resymau a restrir uchod. Mae llawer o droseddwyr yn ‘cuddio’ y tu ôl i’r ffaith efallai na ellir eu hadnabod yn hawdd, gan ddweud pethau na fyddent yn ystyried eu dweud wyneb yn wyneb, a allai gael ei ystyried yn llwfr.

Mae sawl ffurf ar gam-drin ar-lein, ac nid ffigyrau cyhoeddus yn unig yw’r dioddefwyr. Gallai fod ganddynt unrhyw swydd, gallant fod o unrhyw oedran, rhywedd, cyfeiriadedd rhywiol neu gefndir cymdeithasol neu ethnig, a gallant fod yn byw yn unrhyw le.

Seiberfwlio

Gall seiberfwlio ddigwydd ar-lein yn unig, neu fel rhan o fwlio mwy cyffredinol. Gall seiberfwlis fod yn bobl rydych yn eu hadnabod neu gallant fod yn ddienw. Fel pob bwli, yn aml, byddant yn ceisio perswadio eraill i ymuno. Gallech gael eich bwlio am eich credoau crefyddol neu wleidyddol, eich hil neu liw eich croen, delwedd eich corff, os oes gennych anabledd meddyliol neu gorfforol neu am ddim rheswm amlwg o gwbl.

Fel arfer, mae seiberfwlio yn cynnwys anfon negeseuon bygythiol neu gas neu ohebiaeth arall at bobl dros y cyfryngau cymdeithasol, safleoedd chwarae gemau, negeseuon testun neu e-bost, postio fideos i godi cywilydd arnoch ar safleoedd gweletya fel YouTube neu Vimeo, neu aflonyddu arnoch drwy negeseuon testun mynych, negeseuon uniongyrchol neu sgyrsiau. Yn gynyddol, caiff ei gyflawni drwy bostio neu rannu delweddau, fideos neu fanylion preifat a geir drwy secstio, heb ganiatâd y dioddefwr. Mae rhai seiberfwlis yn sefydlu tudalennau Facebook a chyfrifon cyfryngau cymdeithasol eraill yn benodol er mwyn bwlio eraill.

Mae effeithiau seiberfwlio yn amrywio o ddicter a gofid ysgafn i hunan-niweidio a hunanladdiad yn yr achosion mwyaf eithafol. Gall hyn fod yn realiti i bobl sy’n agored i niwed, neu yn wir i unrhyw rai y mae seiberfwlio neu amgylchiadau personol eraill yn gwneud iddynt deimlo’n agored i niwed.

BETH I’W WNEUD OS YW SEIBERFWLIO YN EFFEITHIO ARNOCH

  • Atal cyfeiriadau cyfryngau cymdeithasol, e-bost a negeseuon uniongyrchol seiberfwlis fel sy’n briodol.
  • Rhoi gwybod am seiberfwlis i’ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP), darparwr ffôn symudol (os yw’r bwlio drwy negeseuon testun neu alwadau) neu safle/ap cyfryngau cymdeithasol.
  • Ystyried newid eich rhif ffôn os yw’r bwlio dros neges destun neu alwad ffôn, a chadwch yr un newydd yn breifat.
  • Diogelu eich holl gyfrineiriau a diogelwch eich ffon gan ddefnyddio cyfrinair.
  • Peidio ag ymateb, mae hyn yn chwarae i ddwylio’r bwli.
  • Siarad â ffrind, aelod o’r teulu neu berson dibynadwy arall am yr hyn sy’n digwydd a sut mae’n gwneud i chi deimlo.
  • Cadw negeseuon e-bost negeseuon a phostiau sy’n peri tramgwydd fel tystiolaeth os byddwch yn rhoi gwybod am y bwlio.
  • Rhoi gwybod i’r heddlu am fwlio difrifol fel bygythiadau o niwed corfforol neu gam-drin.

RHAGOR O WYBODAETH A CHYNGOR

Seiberstelcio

Cyswllt digroeso mynych gan berson arall yw seiberstelcio – naill ai rhywun rydych yn ei adnabod neu ddieithryn. Yn aml, rydym yn darllen am enwogion yn gorfod delio â seiberstelcwyr sydd ag obsesiwn. Gall unrhyw un gael ei dargedu.

Mae gan seiberstelcwyr sawl cymhelliad gwahanol, yn cynnwys y rhai sydd o’r farn eu bod wedi cael cam gan eu targed, cyn-bartneriaid, y rhai sydd â chymhellion rhywiol anaddas, neu’r rhai sy’n cael pleser o godi ofn ar bobl eraill, ar hap yn aml. Gallant gamddefnyddio eich ôl troed digidol drwy fusnesu ar eich sianeli/apiau cyfryngau cymdeithasol er mwyn cael gwybod am eich holl weithredoedd, pwy rydych yn cysylltu â nhw a’ch cynlluniau. Wrth i seiberstelwyr fynd yn fwy penderfynol, maent yn ymwthio i fwy o agweddau ar eich presenoldeb ar-lein, weithiau yn cynnwys hacio eich cyfrifon cyfryngau cymdeithasol neu eu cymryd drosodd.

Gall seiberstelcio ddigwydd ar-lein yn unig, neu fel rhan o weithgarwch stelcio neu aflonyddu mwy cyffredinol. Cafodd stelcio ei enwi’n drosedd yng Nghymru a Lloegr yn 2012.

SUT I OSGOI SEIBERSTELCIO

  • Adolygwch pa wybodaeth ar-lein sy’n bodoli amdanoch a gwnewch yn siŵr bod cyn lleied â phosibl o wybodaeth ar gael.
  • Newidiwch eich e-bost a’ch cyfrineiriau ar gyfer cyfrifon ar-lein allweddol yn rheolaidd a’u cadw’n ddiogel.
  • Adolygwch eich holl osodiadau preifatrwydd a diogelwch ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar beiriannau chwilio.
  • Osgowch fforymau cyhoeddus.
  • Gwnewch yn siŵr fod meddalwedd diogelwch rhyngrwyd wedi’i diweddaru ar eich cyfrifiadur a’ch dyfeisiau symudol a’u bod wedi’u troi ymlaen.
  • Gwnewch yn siŵr fod y gosodiad diogelwch wedi’i droi ymlaen ar eich hwb di-wifr/llwybrydd.
  • Peidiwch ag anfon na derbyn gwybodaeth breifat wrth ddefnyddio Wi-Fi cyhoeddus.
  • Cyfyngwch ar y wybodaeth bersonol ac ariannol rydych yn ei rhannu ar-lein ac all-lein.

OS YDYCH YN WYNEBU SEIBERSTELCIO

  • Casglwch a dogfennwch gymaint o dystiolaeth ag y gallwch.
  • Rhowch wybod i’r heddlu am y stelcio.
  • Ceisiwch help gan sefydliadau perthnasol, er enghraifft y Llinell Gymorth Genedlaethol ar gyfer Achosion o Stelcio ar 0808 802 0300, dros e-bost yn [email protected] neu drwy’r wefan yn www.suzylamplugh.org/forms/national-stalking-helpline-enquiry-form
  • Mae gan y rhan fwyaf o safleoedd rhwydweithio cymdeithasol fotwm ‘Rhoi Gwybod am Gamdrinaieth’ neu fotwm tebyg er mwyn eich galluogi i roi gwybod am achosion o seiberstelcio a chamdriniaeth arall.

RHAGOR O WYBODAETH A CHYNGOR

Trolio

Mae’n debyg i seiberfwlio, ac ystyr trolio yw achosi pryder, ofn neu gynnwrf yn fwriadol i unigolion, grwpiau o bobl neu gynulleidfa fwy cyffredinol sydd fel arfer yn bobl nad yw’r trôl yn eu hadnabod. Fel arfer, mae’n achosi pryder o ganlyniad i safbwyntiau eithafol a gaiff eu mynegi, neu ddim ond er mwyn gwneud hynny. Mae difrïo hiliol, crefyddol, homoffobaidd, gwleidyddol neu gymdeithasol yn ffurfiau cyffredin ar drolio, ond gallech gael eich erlid hefyd am rywbeth mor sylfaenol â’r tîm pêl-droed rydych yn ei gefnogi. Gall hefyd fod wedi’i gyfeirio yn erbyn pobl – enwog neu fel arall – sy’n enwog am eu dyngarwch, am roi i elusennau ac am eu anhunanoldeb … gan droliau sy’n anghytuno â’u cymhellion.

Bydd un o’r ffurfiau mwyaf cas ar drolio yn digwydd pan gaiff anlladrwydd neu sarhad eu postio yn erbyn pobl sydd wedi marw, na allant amddiffyn eu hunain. Gall hyn arwain at drawma sylweddol i berthnasau a ffrindiau yr unigolion dan sylw.

Gall trolio gael ei gyflawni gan unigolion, neu grwpiau o droliau sydd â nod cyffredin – i beri tramgwydd i ddioddefwyr diniwed.

BETH I’W WNEUD OS BYDD TROLIO YN EFFEITHIO ARNOCH

  • Atal cyfrifon cyfryngau cymdeithasol troliau.
  • Rhoi gwybod am droliau i’ch darparwr gwasanaeth rhyngrwyd (ISP), darparwr ffôn symudol (os yw’r bwlio drwy negeseuon testun neu alwadau) neu safle/ap cyfryngau cymdeithasol.
  • Peidio â chynhyrfu na dangos eich bod wedi cynhyrfu. Bydd hyn yn chwarae i ddwylo’r trôl.
  • Siarad â ffrind, aelod o’r teulu neu berson dibynadwy arall am yr hyn sy’n digwydd a sut mae’n gwneud i chi deimlo.
  • Cadw negeseuon e-bost, negeseuon a phostiau sy’n peri tramgwydd fel tystiolaeth os byddwch yn rhoi gwybod am y trolio.
  • Rhoi gwybod i’r heddlu am achosion difrifol o drolio os yw’n ddifenwol neu’n debygol o ysgogi casineb.

Sleifio (Creeping)

Mae sleifio yn cyfeirio at rywun sy’n cadw llygad ar rywun ar y cyfryngau cymdeithasol drwy edrych ar linell amser, diweddariadau, sgyrsiau, lluniau/fideos, proffiliau a ffrindiau’r unigolyn. Gall hefyd gynnwys edrych beth mae rhywun wedi’i ysgrifennu ar linellau amser pobl eraill, neu wedi ei aildrydar.

Mae pobl sy’n sleifio yn dueddol o gelu’r ffaith eu bod yn sleifio drwy beidio â gwahodd, rhoi sylw nac ymateb ar Facebook a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol eraill, a thrwy beidio ag edrych ar eich tudalen LinkedIn (gan fod y safle yn hysbysu pobl am hyn).

Yn wahanol i seiberstelcio, nid yw sleifio yn niweidiol ac nid yw’n drosedd, er ei fod yn cael ei ystyried yn annymunol.

 

 

 

See Also...

In Partnership With