English

Eich ôl troed digidol

Bob tro y byddwch chi’n defnyddio gwefan, yn anfon neu’n derbyn neges neu e-bost, yn prynu neu’n archebu unrhyw beth ar-lein, yn gwneud sylwadau ar neges, yn llwytho llun neu’n dod o hyd i gyfarwyddiadau ar eich ffôn, rydych chi’n ychwanegu at eich ôl troed digidol. Pan fyddwch chi’n ffrydio cerddoriaeth, yn gwneud fideoalwad neu’n defnyddio siaradwr craff, mae hynny’n ychwanegu at eich ôl troed digidol hefyd.

A phan fyddwch chi’n postio llun o’ch plant neu’ch ffrindiau, rydych chi hefyd yn ychwanegu at eu hôl troed digidol nhw, er efallai nad ydyn nhw wedi cytuno iddo.

Un o ganlyniadau cyffredin cael ôl troed digidol yn gweld hysbyseb am rywbeth rydych chi wedi chwilio amdano ar-lein ar eich ffrwd cyfryngau cymdeithasol, neu fel ffenestr naid. Ond gall fod canlyniadau eraill, mwy difrifol hefyd. Fel pan na fyddwch ar y rhestr fer am swydd oherwydd bod darpar gyflogwr wedi gweld rhywbeth y gwnaethoch ei bostio bum mlynedd yn ôl. Pan fyddwch chi’n cael eich twyllo am eich bod wedi rhannu rhai manylion cyfrinachol yn anfwriadol. Neu pan fydd rhywun yn gwerthu eich gwybodaeth bersonol ymlaen i drydydd parti.

Mae’n debyg y gallem ni i gyd elwa o feddwl mwy am y llwybr rydyn ni’n ei adael ar-lein. A sut y gallai effeithio arnon ni ac eraill ar hyn o bryd ac yn y dyfodol.

Beth fydd yn digwydd pan fydd gennych ôl troed digidol?

Mae eich ôl troed digidol yn rhan o’ch hanes ar-lein a gall pobl eraill ei weld o bosibl, neu ei olrhain a’i gadw mewn cronfeydd data lluosog, waeth pa mor ofalus ydych chi gyda’ch gosodiadau preifatrwydd. Dyma rai enghreifftiau o’r hyn a all ddigwydd:

  • Gall darpar gyflogwyr neu gyflogwyr presennol edrych ar eich cefndir chi ac aelodau o’ch teulu.
  • Gallai ceisiadau ar gyfer ysgolion, colegau, prifysgolion, ysgoloriaethau, clybiau neu hyd yn oed dimau chwaraeon gael eu gwrthod.
  • Gallech chi, aelodau o’ch teulu neu ffrindiau ddioddef twyll neu ladrad hunaniaeth … neu’r ddau.
  • Gallai eich plant fod mewn perygl o weithgarwch troseddol gan fygwth eu diogelwch ar-lein neu gorfforol.
  • Gallai cofnodion o’ch gweithgarwch ar-lein ddisgyn i’r dwylo anghywir, gan gynnwys grwpiau troseddau trefniadol.
  • Gall cwmnïau technoleg fel darparwyr porwr a pheiriannau chwilio olrhain a chofnodi’r hyn rydych chi wedi’i chwilio a’i weld. Gallai hyn, yn ei dro, gael ei rannu â phartïon eraill gan gynnwys asiantaethau gorfodi’r gyfraith.
  • Mae’n bosibl y gwrthodir yswiriant bywyd, meddygol, eiddo neu gerbyd i chi ar sail gwybodaeth rydych wedi’i rhannu ar-lein.
  • Gall hysbysebwyr olrhain eich symudiad o safle i safle er mwyn mesur eich meysydd diddordeb.
  • Gall cwmnïau eich targedu gyda chynnwys marchnata penodol ar gyfryngau cymdeithasol a gwefannau eraill. Gallech hefyd dderbyn e-byst, llythyrau neu alwadau ffôn gan y cwmnïau hyn.
  • Gallai darparwyr adloniant (fel cerddoriaeth neu ffilmiau) eich targedu gydag argymhellion digroeso ar gyfer cynnwys yn seiliedig ar yr hyn rydych chi’n ei lawrlwytho neu’n ei ffrydio.

Awgrymiadau gwych

  • Meddyliwch ddwywaith cyn rhannu gwybodaeth amdanoch chi’ch hun, aelodau’r teulu neu ffrindiau y byddai’n well ei chadw’n breifat. Mae hynny’n wir am gyfryngau cymdeithasol, ffurflenni ar wefannau ac apiau, ymateb i negeseuon testun a negeseuon ac wrth gymryd rhan mewn arolygon a chwisiau.
  • Meddyliwch cyn postio. Hyd yn oed os yw eich gosodiadau preifatrwydd cyfryngau cymdeithasol wedi’u gosod yn gywir, nid oes unrhyw sicrwydd na fydd eich postiadau na’ch lluniau’n cael eu rhannu y tu hwnt i’r rhai rydych chi am eu gweld.
  • Byddwch yn ymwybodol, bob tro y byddwch yn ymweld â gwefan, bod eich gweithgaredd yn weladwy i gwmnïau technoleg fel perchnogion gwefannau, porwyr a pheiriannau chwilio.
  • Darllenwch delerau ac amodau a pholisïau preifatrwydd data ar wefannau ac apiau cyn darparu unrhyw ddata personol neu wneud trafodion. Beth all y darparwyr ei wneud gyda’ch data, a pham y byddech chi’n cytuno iddo? Os nad ydych chi’n gyfforddus â’r wybodaeth y gofynnir amdani, peidiwch â’i darparu.
  • Gwiriwch osodiadau canfod lleoliad ar ddyfeisiau symudol, apiau a chamerâu. Os nad ydych chi eisiau i unrhyw un wybod ble rydych chi – neu ble rydych chi wedi bod – diffoddwch nhw.
  • Peidiwch byth â rhoi’r gorau i fwynhau’r llu o fanteision gwych o ddefnyddio’r rhyngrwyd, ond cofiwch y gallech bob amser fod yn gadael llwybr digidol, pwy all gael mynediad iddo a sut y gallent ei ddefnyddio.

#ÔlTroedDigidol

In Partnership With