English

Waliau Tân

Mae’r rhyngrwyd yn rhwydwaith cyhoeddus i bob pwrpas, sy’n golygu y gall unrhyw ddyfais gysylltiedig ddod o hyd i unrhyw ddyfais gysylltiedig arall a chysylltu â hi. Rhwystr rhwng y rhyngrwyd â’ch cyfrifiaduron neu rwydwaith eich hun yw wal dân – sy’n atal ymweliadau heb awdurdod gael mynediad i’ch systemau neu eu gadael.

Mae wal dân yn diogelu eich sefydliad rhag:

  • Hacwyr yn torri i mewn i’ch cyfrifiadur neu rwydwaith.
  • Mwydod (worms) – mathau o feirysau sy’n lledaenu o ddyfais i ddyfais ar-lein.
  • Traffig allanol sy’n deillio o haint feirws.

Beth NAD yw wal dân yn ei wneud:

Nid yw wal dân yn ddigonol ynddi’i hun i sicrhau diogelwch, ond dyma’r llinell amddiffyniad gyntaf. Mae hefyd angen i chi gymryd y camau amddiffynnol eraill a amlinellir ar y wefan hon. Cofiwch, dim ond rhywfaint o ddiogelwch os o gwbl y mae wal dân yn ei sicrhau yn erbyn y canlynol:

  • Pan fyddwch wedi rhoi caniatâd i gyfrifiaduron eraill gysylltu â’ch un chi.
  • Pan fydd wedi’i droi i ffwrdd, wedi’i analluogi neu’n cynnwys llawer o eithriadau neu byrth agored.
  • Y rhan fwyaf o osodiadau maleiswedd ac ysbïwedd.
  • Sbam.
  • Unrhyw fath o dwyll neu weithgarwch troseddol ar-lein.
  • Os ydych chi neu feirws wedi creu drws cefn drwy’r wal dân.
  • Pobl sydd â mynediad ffisegol i’ch cyfrifiadur neu rwydwaith.
  • Data a gyflwynir i’r cyfrifiadur heblaw ar-lein, er enghraifft drwy ddyfeisiau USB cysylltiedig, CD/DVD ac ati.
  • Ymosodiadau ar ôl i rwydwaith gael ei beryglu.
  • Traffig sy’n ymddangos yn ddilys.

Fodd bynnag, nid yw yr un o’r uchod yn rheswm dros BEIDIO â gosod wal dân, oherwydd dylech bob amser dybio NAD yw eich ISP yn darparu unrhyw fath o wal dân.

Mathau o waliau tân

Waliau tân personol

Dylid gosod waliau tân personol ar bob cyfrifiadur sydd wedi’i gysylltu â’r rhyngrwyd ac sy’n monitro (ac yn rhwystro, lle y bo angen) traffig rhyngrwyd. Weithiau, gelwir y rhain hefyd yn ‘waliau tân meddalwedd’ (‘software firewalls’) neu’n ‘waliau tân bwrdd gwaith’ (‘desktop firewalls’).

Wal dân bersonol sylfaenol yw Windows Firewall. Mae am ddim, ac mae wedi’i chynnwys gyda systemau gweithredu Windows. Yn Windows 10, Windows 8, Windows 7 a Vista, mae’r wal dân yn weithredol yn ddiofyn, felly does dim angen i chi boeni ynghylch ei ffurfweddu eich hun.

Os byddwch yn dymuno, gallech osod wal dân bersonol arall o’ch dewis yn lle Windows Firewall, yn cynnwys y math sydd wedi’i chynnwys mewn rhai pecynnau diogelwch ar y rhyngrwyd, neu feddalwedd wal dân annibynnol y gellir ei lawrlwytho o’r rhyngrwyd, y mae rhai ohonynt am ddim.

Waliau tân caledwedd

Efallai y bydd angen wal dân caledwedd ar fusnesau mawr a chanolig eu maint – yn ogystal â waliau tân personol – yn dibynnu ar ffurfweddiad eich isadeiledd TG. Os nad ydych yn siŵr, ceisiwch gyngor proffesiynol ar ddewis, gosod a ffurfweddu’r un mwyaf addas ar gyfer anghenion eich busnes.

Gwnewch yn siŵr fod eich Windows Firewall wedi’i throi ymlaen

Yn Windows 10 a 8, ewch i Control Panel, dewiswch System a Security, yna dewiswch Windows Firewall. Mae gweithrediad Windows Firewall wedi’i nodi o dan Home or work (private) networks.

 

In Partnership With