English

Meddalwedd Wystlo

Math o faleiswedd yw meddalwedd wystlo sy’n rhoi’r gallu i droseddwyr gloi cyfrifiadur o leoliad o bell – yna mae ffenest naid yn ymddangos sy’n rhoi gwybod i’r perchennog neu ddefnyddiwr na chaiff ei ddad-gloi nes y bydd swm o arian wedi’i dalu. Ymysg yr enghreifftiau a gafodd gryn sylw yn ddiweddar mae CryptoLocker, Cryptowall a WannaCry (ac amrywiadau o’r rhain o dan enwau gwahanol.

Mewn rhai achosion, yr unig ran o’r cyfrifiadur y gellir ei ddefnyddio yw’r bysellfwrdd rhifau er mwyn rhoi PIN i’ch galluogi i dalu’r troseddwyr. Un tro ychwanegol yw y gall cyhuddiad o weithgaredd anghyfreithlon neu ddelwedd bornograffig ymddangos weithiau ar y sgrin sydd wedi’i gloi, sy’n ei gwneud yn anoddach drwy gywilydd i rai defnyddwyr geisio help gan unrhyw un arall, a phenderfynu talu’r pridwerth.

Gallai eich cyfrifiaduron gael eu heintio gan feddalwedd wystlo pan fyddwch chi neu gydweithwyr yn gwneud y canlynol yn anfwriadol:   

  • Agor atodiad maleisus mewn e-bost.
  • Clicio ar ddolen faleisus mewn neges e-bost, neges uniongyrchol, safle rhwydweithio cymdeithasol neu wefan arall.
  • Ymweld â gwefan lwgr.
  • Agor ffeiliau wedi’u heintio gan wefannau dosbarthu ffeiliau digidol ar y we (er enghraifft High Tail (YouSendIt gynt) neu Dropbox.
  • Agor macros llwgr mewn dogfennau cymwysiadau (prosesu geiriau, taenlenni ac ati).
  • Cysylltu dyfeisiau cyswllt USB llwgr (e.e. cofau bach, gyriannau caled allanol, chwaraewyr MP3).
  • Rhoi CDs/DVDs llwgr mewn cyfrifiaduron.

Y risgiau

  • Peidio â gallu cael mynediad i unrhyw ffeiliau neu swyddogaethau ar gyfrifiaduron wedi’u heintio byth eto.
  • Peidio â chael mynediad i’ch ffeiliau neu swyddogaethau, hyd yn oed pan fyddwch wedi talu’r pridwerth.

Osgoi meddalwedd wystlo

  • Peidiwch ag ateb i e-byst digymell na sbam gan gwmnïau neu unigolion nad ydych yn eu hadnabod na chlicio ar ddolenni yn yr e-byst hynny.
  • Dim ond gwefannau rydych yn gwybod eu bod nhw’n ddilys y dylech ymweld â nhw.
  • Dylech bob amser ddiweddaru meddalwedd ac apiau – yn cynnwys systemau gweithredu – cyn gynted ag y cewch eich annog i wneud hynny.
  • Gwnewch yn siŵr fod gennych feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd effeithiol wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg cyn i chi fynd ar-lein.
  • Sefydlwch gamau awtomataidd i gadw data wrth gefn yn rheolaidd, yn ddelfrydol ar-lein i gyfleusterau sy’n diwallu anghenion diogelwch eich sefydliad a gwneud yn siŵr bod copïau wrth gefn o ddata yn gallu cael eu gwneud yn gyflym ac y gellir cael mynediad iddynt yn hawdd.

Os oes gennych feddalwedd gwystlo ar eich cyfrifiaduron

  • Er mwyn canfod a dileu meddalwedd wystlo a meddalwedd faleisus arall a all fod wedi’u gosod ar gyfrifiaduron, rhedwch sgan system lawn gyda datrysiad diogelwch priodol cyfredol.
  • Os bydd unrhyw gyfrifiaduron wedi cael eu cloi gan feddalwedd gwystlo, ceisiwch gyngor proffesiynol o ffynhonnell ddibynadwy. Hyd yn oed wedyn, mae’n bosibl na fyddwch byth yn gallu cael mynediad i’ch ffeiliau eto.

 

In Partnership With