English

Lawrlwytho a Rhannu Ffeiliau

Mae lawrlwytho hefyd yn ffordd gyffredin a chyfleus iawn o gael a diweddaru meddalwedd yn ogystal â dogfennau, PDFs, fideos, ffotograffau a ffeiliau eraill. Mae lawrlwytho yn wahanol i ffrydio, sef lle caiff fideos, cerddoriaeth neu synau eu hanfon dros y rhyngrwyd i chi eu gwylio neu wrando arnynt mewn amser real, yn hytrach na gallu cael eu cadw ar eich cyfrifiadur i’w defnyddio yn ddiweddarach.

Y risgiau

  • Gadael feirysau i mewn i’ch cyfrifiaduron neu rwydwaith yn anfwriadol – o wefannau a rhaglenni rhannu ffeiliau rhwng cymheiriaid.
  • Gosod ysbïwedd sy’n galluogi troseddwyr i gael gwybodaeth gyfrinachol er mwyn cael mantais ariannol neu er mwyn dwyn hunaniaeth.
  • Amddifadu datblygwyr meddalwedd ac artistiaid sy’n perfformio o’u hincwm.
  • Torri hawlfraint. Er y gallai lawrlwytho meddalwedd, cerddoriaeth a fideos am ddim eich temptio, mae’n anghyfreithlon atgynhyrchu deunydd sydd dan hawlfraint.
  • Bod eich wal dân yn cael ei thorri, yn enwedig wrth ddefnyddio rhaglenni rhannu ffeiliau rhwng cymheiriaid.
  • Lawrlwytho deunydd ymosodol/anghyfreithlon neu feirysau sy’n edrych fel rhywbeth arall.
  • Gosod meddalwedd hysbysebu (adware) yn anfwriadol sy’n galluogi hysbysebion naid plagus.

Lawrlwytho yn ddiogel

  • Gwnewch yn siŵr fod meddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd a wal dân effeithiol wedi’u diweddaru wedi’u gosod ac yn rhedeg cyn gwneud unrhyw lawrlwytho.
  • Byddwch yn ofalus iawn wrth lawrlwytho ffeiliau gweithredadwy (.exe). Defnyddir y ffeiliau hyn gan raglenni i redeg ar eich cyfrifiadur. Fodd bynnag, cânt eu defnyddio hefyd yn gyffredin i gario feirysau.
  • Defnyddiwch wefannau lawrlwytho dibynadwy yn hytrach na systemau rhwng cymheiriaid er mwyn caffael rhaglenni.
  • Byddwch yn wyliadwrus ynghylch lawrlwytho unrhyw beth, oherwydd y gall pobl alw eu ffeiliau yn unrhyw beth y mynnont. Gallai rhywbeth sy’n ymddangos fel clip o ffilm wyddonias newydd fod yn bornograffi caled neu’n ffeil sydd wedi’i heintio gan feirws mewn gwirionedd.
  • Dim ond o safleoedd sy’n codi tâl arnoch fel iTunes, Google Play neu wefannau manwerthwyr dibynadwy y dylech lawrlwytho cerddoriaeth.

Rhannu ffeiliau yn ddiogel rhwng cymheiriaid

  • Os bydd yn rhaid i chi ddefnyddio meddalwedd rhannu ffeiliau yn eich busnes, gwnewch yn siŵr eich bod yn dewis meddalwedd diogel, yn ei gosod yn ddiogel a’i defnyddio’n briodol.
  • Dim ond pan fydd gennych feddalwedd diogelwch ar y rhyngrwyd wedi’i diweddaru a wal dân yn rhedeg y dylech osod rhaglenni rhannu ffeiliau.
  • Dylech ystyried talu am fersiwn bremiwm na chaiff ei hariannu gan hysbysebion, er mwyn lleihau’r risg y caiff meddalwedd hysbysebu ei gosod.
  • Dim ond o wefannau gweuthurwyr neu adwerthwyr awdurdodedig y dylech lawrlwytho meddalwedd.
  • Peidiwch â gadael i bobl bori eich ffeiliau yn uniongyrchol, a ffurfweddwch y rhaglen yn ofalus fel mai dim ond y ffeiliau rydych am eu rhannu y byddwch yn eu rhannu, gan gadw gweddill eich ffeiliau a’ch gwybodaeth gyfrinachol yn breifat. Mae hyn yn osgoi rhannu data â dieithriaid llwyr yn anfwriadol.
  • Peidiwch â rhannu deunydd sydd dan hawlfraint.

Ceir rhagor o wybodaeth am ddwyn hawlfraint yn y canlynol:

FAST: Y Ffederasiwn yn Erbyn Dwyn Meddalwedd.

FACT: Y Ffederasiwn yn Erbyn Dwyn Hawlfraint.

IFPI: Ffederasiwn Ryngwladol y Diwydiant Ffonograffig.

In Partnership With