English

Gwaredu

Defnyddir eich cyfrifiaduron, llechi a ffonau clyfar i storio a chyfathrebu data ac os byddant yn mynd i’r dwylo anghywir, gellir eu defnyddio i beryglu diogelwch eich sefydliad a’i gyflogeion. Gellid storio’r data hyn ar y ddyfais ei hun, neu byddant ar gael ar ffurf nodau tudalen ar y rhyngrwyd, drwy fynediad rhwydwaith o bell, neu drwy gysylltiadau e-bost a thrwy’r cyfryngau cymdeithasol.

Wrth gwrs, mae’n hanfodol diogelu’r data hyn pan fydd dyfeisiau’n cael eu defnyddio, ond mae yr un mor bwysig sicrhau nad yw cyfrifiaduron, llechi a ffonau clyfar yn agored i niwed o hyd ar ddiwedd eu hoes. Gwnewch hyn drwy eu gwaredu’n gywir. Gall troseddwyr penderfynol ac achubwyr cyfle medrus hyd yn oed adalw data sydd wedi’u dileu’n ddiogel yn eich barn chi yn gymharol rhwydd.

Gwaredu cyfrifiaduron

Os oes gennych gyfrifiadur gyda data gwaith ar y disg caled y mae angen i chi ei gadw, dylech eu copïo drosodd i’r gweinydd cyn eu dileu. Os oes gennych gyfrifiadur personol a’ch bod am drosglwyddo data, gosodiadau a phroffiliau defnyddwyr i gyfrifiadur personol arall, gallwch lawrlwytho cyfleuster am ddim gan Microsoft o’r enw PCmover Express yma. Gallech hefyd wneud copïau wrth gefn o’r holl ddata nad ydynt wedi’u cadw yn y cwmwl.

Dylech ddileu’r disg/disgiau caled yn llwyr er mwyn sicrhau y caiff unrhyw wybodaeth bersonol gyfrinachol ei dileu yn llwyr. Fodd bynnag, nid yw dileu ffeiliau yn ddigon i’w dileu yn barhaol. Yn hytrach, defnyddiwch raglen neu wasanaeth penodol ar gyfer dileu ffeiliau, neu ewch ati i ddinistrio’r gyriant caled fel na ellir ei ddefnyddio. Neu, os yw’r gyriant caled yn dal i weithio ac yn ddibynadwy, gallech ei ail-leoli mewn câs allanol gyda chyflenwad trydan a chysylltiad USB a’i ddefnyddio i gadw copïau wrth gefn o’ch data neu i gyfnewid eich data.

Gall CDs, DVDs, cardiau cof, cofau bach a dyfeisiau USB cysylltiedig eraill hefyd gynnwys eich data sensitif a dylid cymryd gofal wrth gael gwared arnynt. Os yw’n briodol, cymerwch yr un gofal wrth gael gwared arnynt.

Os yw’r cyfarpar cyfrifiadurol wedi cyrraedd diwedd ei oes ac na chaiff ei ailddefnyddio gennych chi, cydweithiwr neu unrhyw un arall, dylid ei dynnu’n ddarnau a dylid ailgylchu’r holl elfennau yn gywir ac yn gyfrifol gan gyfleuster gwaredu priodol yn unol â’r Gyfarwyddeb WEEE (Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff).

Gwaredu ffonau clyfar a llechi

Dylech sicrhau y caiff unrhyw ddata neu osodiadau sydd eu hangen arnoch eu copïo o’ch dyfais drwy ei chysoni â’i chyfrifiadur cysylltiedig – neu greu copïau wrth gefn ar y cwmwl – yna ei hadfer i osodiadau’r ffatri.

Yn achos dyfeisiau Android, rhaid i chi alluogi amgryptiad cyn cymhwyso gosodiadau’r ffatri. Mae Apple iPhones eisoes yn cynnwys amgryptiad caledwedd yn ddiofyn – nodwedd na ellir ei hanalluogi gan ddefnyddiwr. Fodd bynnag, er mwyn bod yn hollol siŵr fod eich data a’ch gosodiadau’n cael eu dileu, dylech lawrlwytho a defnyddio adnodd dileu data dibynadwy.

Os yw’r ddyfais wedi cyrraedd diwedd ei hoes ac na chaiff ei hailddefnyddio gennych chi, cydweithiwr neu unrhyw un arall, dylid ei thynnu’n ddarnau a dylid ailgylchu’r elfennau yn gywir ac yn gyfrifol gan gyfleuster gwaredu priodol yn unol â’r Gyfarwyddeb WEEE (Cyfarpar Trydanol ac Electronig Gwastraff).

 

In Partnership With