English

Diogelwch Ffisegol

Mae diogelwch ffisegol yr un mor bwysig â diogelwch ar-lein wrth ddiogelu eich cyfrifiaduron, dyfeisiau symudol, busnes a chyflogaswn rhag troseddau a materion penodol eraill. Mae’r dudalen hon yn sôn am ddiogelu eich cyfarpar a’ch data rhag lladrad, a rhag colled ddamweiniol, tân, llifogydd a difrod damweiniol.

Y risgiau

Dwyn Cyfrifiaduron/Dyfeisiau Symudol a Data

Os na chaiff eich cyfrifiaduron, gweinyddion, llechi a ffonau clyfar eu diogelu’n ffisegol yn briodol, byddwch yn ei gwneud yn haws i droseddwyr ddwyn y dyfeisiau eu hunain, a chael mynediad i’r data a geir arnynt a’u dwyn – neu y gallant gael gafael arnynt. Byddwch hefyd yn eu gadael yn agored i gael eu heintio â mathau gwahanol o faleiswedd – heb fod angen i’r troseddwr gael mynediad ar-lein. Er gwaethaf y dulliau ar-lein soffistigedig a ddefnyddir gan droseddwyr erbyn hyn, mae’n dal yn haws cael mynediad i’ch systemau a’ch data drwy wneud hynny eich hun ar eich eiddo, neu gymryd eich dyfeisiau.

Os nad yw eich safle busnes, swyddfeydd cartref neu safleoedd eraill lle caiff y cyfarpar cyfrifiadurol ei gadw wedi’i ddiogelu’n ddigonol, gall troseddwyr gael mynediad drwy dorri i mewn.

Mae troseddwyr hefyd yn esgus bod yn gyflenwyr – er enghraifft peiriannydd TG neu gynrychiolydd cwmni cyfleustod. Nid yw’n cymryd llawer o amser i droseddwyr gyflawni eu hamcanion unwaith y byddant wedi eich twyllo chi neu gydweithiwr neu wedi tynnu eich sylw. Math o deilwra cymdeithasol yw hyn.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gadw dyfeisiau symudol yn ddiogel yma.

Difrod Ffisegol

Fel popeth arall mewn busnes, mae dyfeisiau a seilweithiau cyfrifiadurol a chyfathrebu yn agored i ddifrod gan dân, llifogydd a difrod damweiniol. Dylech gymryd pob rhagofal i’w diogelu rhag achosion o’r fath, sefydlu cynllun parhad busnes, gwneud copïau wrth gefn o’ch holl ddata oddi ar y safle a sicrhau bod gennych yswiriant busnes digonol er mwyn cwmpasu colledion ffisegol.

Cadw eich dyfeisiau yn ddiogel

  • Cadwch ddrysau a ffenestri ar glo.
  • Cadwch gopïau caled o gofnodion sensitif wedi’u cloi os yn bosibl.
  • Gosodwch larwm tresmasu, gyda chodau unigryw ar gyfer pob cyflogai.
  • Gosodwch fariau neu gaeadau ar ffenestri sy’n agored i niwed.
  • Defnyddiwch deledu cylch cyfyng i atal tresmaswyr a chofnodi achosion o weithgarwch troseddol.
  • Ystyriwch ddefnyddio ceblau cloi cyfrifiaduron ar beiriannau pen desg a gliniaduron unigol.
  • Cadwch ddiffoddydd tân sy’n addas i’w ddefnyddio gyda chyfarpar trydanol ger eich cyfrifiadur.
  • Byddwch yn ofalus sut rydych yn cael gwared ar ddeunydd pecynnu a allai gyfleu bod gennych gyfarpar newydd.
  • Gofynnwch am gyngor diogelwch ychwanegol gan eich cwmni yswiriant neu swyddog atal troseddau lleol.

Ymwelwyr â’ch busnes:

  • Byddwch yn wyliadwrus ynghylch rhoi mynediad i unrhyw ymwelwyr, a gwnewch yn siŵr eich bod yn eu hebrwng lle y bo’n briodol.
  • Fetiwch gontractwyr a staff cymorth.
  • Cyfyngwch fynediad i ardaloedd sensitif, fel ystafelloedd gweinyddion neu gofnodion adnoddau dynol.
  • Anogwch staff i herio dieithriaid nad ydynt yn cael eu hebrwng sydd mewn ardaloedd diogel.

Cyngor ychwanegol ar gyfer defnyddwyr gliniaduron, llechi a ffonau clyfar

  • Dylai cyflogeion gadw dyfeisiau symudol gyda nhw bob amser. Pan na fydd neb yn gofalu amdanynt – er enghraifft mewn ystafell mewn gwesty neu mewn ystafell gyfarfod – dylent eu cadw allan o’r golwg neu dan glo. Dylent gael eu cario gyda chi ar awyrennau neu fysiau.
  • Ni ddylid gadael gliniaduron, llechi a ffonau clyfar ar sedd cerbyd. Hyd yn oed pan fydd y gyrrwr yn y cerbyd, gallai ei ddyfais fod mewn perygl pan fydd yn llonydd (er enghraifft, pan fydd wedi parcio neu wedi aros wrth oleuadau traffig).
  • Dylai cyflogeion â llechi a ffonau clyfar wneud eu gorau i beidio â’u harddangos pan fyddant allan o’r swyddfa neu’r cartref oherwydd y tueddiad cynyddol mewn lladradau cipio, sy’n cynnwys trais corfforol weithiau.
  • Gwnewch yn siŵr fod eich cyflogeion yn defnyddio bagiau cwiltiog i gario eu gliniaduron a’u llechi lle y bo’n ymarferol. Caiff llawer o liniaduron eu torri drwy gael eu gollwng.

Gweinyddion a seilwaith TG

  • Cadwch weinyddion a chyfarpar rhwydwaith mewn ystafell dan glo a rheolwch y mynediad iddi.
  • Gellir defnyddio cloeon unigol i ddiogelu rheseli a chypyrddau gweinyddion a rhwydweithio hefyd.
  • Analluogwch byrth rhwydweithiau segur.
  • Dewch o hyd i gyfarpar i leihau risgiau o dân, llifogydd a lladrad.
  • Cadwch ddiffoddydd tân sy’n addas i’w ddefnyddio gyda chyfarpar trydanol ger eich cyfarpar TG.

Copïau caled o gofnodion

  • Defnyddiwch gypyrddau ffeilio y gellir eu cloi.
  • Cynhaliwch bolisi rhwygo papur llym.
  • Sefydlwch bolisi ‘desg glir’ fel bod cyflogeion yn cloi papurau sensitif pan na fyddant yn gweithio arnynt.
  • Anogwch ddefnyddwyr i gasglu eu dogfennau o argraffwyr, peiriannau ffacs, llungopïwyr a dyfeisiau amlswyddogaethol ar unwaith. Lle maent ar gael, defnyddiwch y nodwedd argraffu diogel.

Cyfarpar wedi’i ddwyn neu ei golli

  • Os byddwch yn dysgu bod cyfrineiriau wedi cael eu storio mewn dogfen ar gyfrifiadur personol neu liniadur sydd wedi’i golli neu ei ddwyn, neu fod y blwch ‘cofio’r cyfrinair hwn’ wedi’i dicio ar wefan, dylech wneud yn siŵr fod unrhyw gyfrineiriau yn cael eu newid cyn gynted â phosibl ar ôl iddo gael ei ddwyn neu ei golli.
  • Rhowch wybod i’r Heddlu (neu os cafodd ei ddwyn neu ei golli ar drên, yr Heddlu Trafnidiaeth Prydeinig) a chael rhif cyfeirnod trosedd neu golled at ddibenion olrhain ac yswiriant.

Cyfyngu Effaith yr Achos o Ddwyn neu Golled

  • Gwnewch nodyn o holl rifau cyfres cyfarpar TG fel y gellir rhoi gwybod os caiff ei ddwyn.
  • Marciwch gyfrifiaduron ac eitemau gwerth uchel eraill ar gyfer diogelwch.
  • Cadwch gofnodion ffotograffig wedi’u hargraffu o bob cyfarpar a’u cloi i ffwrdd yn ddiogel.
  • Peidiwch byth â storio cyfrineiriau ar gyfrifiaduron.
  • Gwnewch yn siŵr fod cyfarpar cyfrifiadurol yn cael ei yswirio’n ddigonol.
  • Cadwch gopïau wrth gefn o ddata (ceir rhagor o wybodaeth yn Cadw copïau wrth gefn).

Rhagor o Wybodaeth

www.securityforum.org

In Partnership With