English

Cymorth Seiber a Diogelwch Gwybodaeth

Mae’r wefan hon wedi’i chynllunio i’ch helpu chi – fel sefydliad bach i ganolig – i sefydlu a chynnal y lefelau priodol o ddiogelwch ar gyfer systemau TG, dyfeisiau, busnes a chyflogeion rhag materion sy’n ymwneud â diogelwch ar-lein a diogelwch gwybodaeth. Efallai eich bod eisoes yn defnyddio gwasanaethau darparwr cymorth TG neu, yn dibynnu ar faint a sector busnes eich sefydliad, bod gennych adnoddau pwrpasol yn fewnol. Neu, efallai nad oes gennych unrhyw gymorth. Mae’n dal yn gymharol anarferol i adnoddau cymorth TG mewnol neu allanol gael y nodweddion angenrheidiol i’ch helpu i amddiffyn yn ddigonol rhag y risgiau a wynebir gan fusnesau heddiw. Mae hyn yn golygu efallai y bydd angen i chi allu manteisio ar arbenigwr cymorth seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth er mwyn sicrhau’r diogelwch gorau a datrys unrhyw broblemau wrth iddynt godi.

Dewis arbenigwr cymorth seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth

Mae nifer o sefydliadau hyfforddiant cydnabyddedig yn darparu cymwysterau ac achrediadau mewn cymorth seiberddiogelwch a diogelwch gwybodaeth. Dim ond darparwyr sydd â’r cymwysterau priodol y dylech eu defnyddio, er enghraifft:

CISMP Tystysgrif mewn Arferion Rheoli Diogelwch Gwybodaeth,

CISSP Diogelwch Ardystiedig Proffesiynol Systemau Gwybodaeth neu SSCP Ymarferydd Ardystiedig Diogelwch Systemau

GICSP Seiberddiogelwch Diwydiannol Byd-eang Proffesiynol

Diogelwch Gwybodaeth (7550)

  • Gan nifer o brifysgolion:

MSs mewn Diogelwch Gwybodaeth a graddau tebyg

Dylech hefyd holi am aelodaeth o gorff proffesiynol priodol fel y Sefydliad Diogelwch Gwybodaeth Proffesiynol (IISP)

Chwiliwch am gyfeiriadau ac argymhellion gan ffynonellau yr ymddiriedir ynddynt. Ceisiwch ymgynghori â safle cyfeirio a all ddilysu ansawdd ac effeithlonrwydd ei waith. Ewch i’w wefan, proffil LinkedInd a ffrwd Twitter.

 

 

 

 

 

 

 

 

In Partnership With